Mae’r wefan yn dathlu bwyd a diod o Gymru gyda rysetiau, astudiaethau achos o gynhyrchwyr, cyfeiriadur o gwmnïau bwyd a diod o Gymru, a llawer mwy.
Os ydych yn masnachu, cewch yma fanylion y cymorth sydd ar gael i fusnesau yn y sector bwyd a diod yng Nghymru.
Mae'r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd, Alun Davies, wedi ymweld â dau gwmni sydd wedi ennill gwobrau Cymru y Gwir Flas yn Nhrefaldwyn i weld sut mae eu paratoadau ar gyfer y Nadolig yn dod yn eu blaen.
Aeth i weld Ifor Humphreys yng nghwmni Cig Eidion Wagyu Ifor yn Aber-miwl, lle gwelodd sut mae'r gwartheg yn cael eu tylino bob dydd ac, yn unol â thraddodiad Japan, cwrw.
Y cwrw hwn yw'r cwrw iawn sydd dros ben o fragdy Monty yn Nhrefaldwyn, lle aeth y Dirprwy Weinidog nesaf i gwrdd â'r perchennog a'r fragwraig Pam Honeyman ...
Roedd Steve Vaughan wedi penderfynu’n ifanc iawn ei fod am weithio â’i ddwylo. Roedd trin gwallt yn un posibilrwydd ond fe ddewisodd fynd yn gigydd yn lle hynny – dewis doeth fel y digwyddodd hi. A byddai ei lu cwsmeriaid yn y gogledd yn siwr o gytuno â hynny.
“Ogla blawd llif, cig a phethau da eraill a wnaeth i mi ddewis bod yn gigydd,” meddai Steve, a ddechreuodd ddysgu ei grefft yn 13 oed, ar ôl ysgol ac ar benwythnosau, mewn siop gig yng Nghaergwrle.
Pan adawodd yr ysgol yn 15 oed, cafodd gynnig gwaith yn y siop honno a dyna lle bu am 20 mlynedd ...
Cynhwysion:
Dull:
Coginiwch y tatws mewn sosban fawr o ddwr berw a halen am 12 munud, gan roi’r wyau i mewn ar ol 6 munud a’r ffa am y ddwy funud olaf ...
