Y Llwybr CawsCaws wedi'i Gratio a'i Dafellu Ash Manor products Mae datblygiad prydau parod a bwydydd hwylus wedi golygu bod llawer o alw am gaws i'w roi mewn bwyd. Nid yw hyn yn syniad newydd ond slawer dydd y bwriad wrth roi caws mewn saws neu ar dost oedd peidio â gwastraffu'r 'sbarion'. Er mwyn gwneud bwyd da, mae'n rhaid cael cynhwysion da ac mae hyn mor wir am gaws ag am unrhyw beth arall. Mae Ash Manor yn darparu caws wedi'i dafellu, ei gratio a'i dorri'n giwbiau'n barod ar gyfer y cwsmer. Mae gan y cwmni offer arbennig fel y gallant dorri caws i'r ffurf fwyaf addas ar gyfer anghenion cwsmeriaid. Cefn |