Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Fflowlyn wedi?i rostio gyda stwffin caws llaeth gafr a pherlysiau Caws Pob
Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr

Canolbwynt Bwyd Cymru - Medi

Canolbwynt Bwyd Cymru - Medi

Mae mis Medi yn datgan diwedd yr haf; bydd y nosweithiau'n dywyllach a bydd cefn gwlad i gyd yn troi'n euraidd. Cynaeafir y cnydau olaf, a bydd aeron gwyllt a ffrwythau yn aeddfedu. Bydd madarch gwyllt a ffyngau rhyfedd eraill yn ffrwydro yn y coedwigoedd ac yn y dolydd, ac ar waelod y môr bydd molysgiaid wedi pesgi yn eu cregyn, a bydd lledod mor dew â moch yn dilyn haf o fwyta. Bydd adar sy'n mudo yn ymgynnull yn yr awyr yn barod am eu taith hir tua'r de, wrth i adar dwr gyrraedd yr aberoedd a fydd yn gartref iddynt am y gaeaf. Hyd yn oed yn yr oes fodern sydd ohoni o gynhyrchu ar raddfa fawr a bwydydd a gaiff eu mewnforio, bydd grym newid y tymhorau yn rhoi ei ôl ar y bwydydd a ddaw o'r tir ac o'r môr.

Pysgodfa Cregyn Gleision Bangor

Misoedd y gaeaf yw'r tymor gorau am nifer o fwydydd y môr gan gynnwys wystrys a chregyn gleision, a'r cregyn gleision sydd wedi datblygu'n bysgodfa fawr a reolir yng Ngogledd Cymru. Ardal Y Fenai rhwng Bangor a Biwmares ac allan i Fae Conwy yw pysgodfa cregyn gleision fwyaf Prydain erbyn hyn. Mae nifer o'r treillwyr cregyn gleision diweddaraf yn casglu oddi ar waelodion y dyfroedd, gan symud y cregyn gleision ifanc o ardaloedd rhynglanwol anaddas i 'orweddion' dyfroedd dyfnach lle bydd cregyn gleision yn tyfu i faint marchnata o fewn deuddeg mis. Allforir y rhan fwyaf o'r cynhaeaf, a all fod hyd at 50% o gyfanswm cynhaeaf Prydain, i farchnadoedd awyddus Ewrop yn Ffrainc, Yr Iseldiroedd a Gwlad Belg.

Lleolir y treillwyr cregyn gleision pwerus ym Mhorthladd Penrhyn, Bangor, ac maent wedi bod yn hollbwysig wrth adfywio pysgodfa cregyn gleision draddodiadol aber Conwy. Gwnaethpwyd hyn â llaw am ganrifoedd, gan gasglu'r cregyn gleision gyda chychod cregyn gleision gwaelod fflat - tasg lafurus iawn oedd yn aneffeithlon yn yr oes fodern - ac o ganlyniad roedd y diwydiant ar farw. Mae'r treillwyr yn gwneud y dasg o ailosod mewn ychydig ddyddiau, yn hytrach nag mewn sawl mis, a bellach mae'r bysgodfa yn ymarferol ac mae'n ffynnu. Yn bwysicaf oll, mae'n cyflenwi cregyn gleision byw ardderchog, wedi'u golchi ac sydd o'r ansawdd gorau i'r farchnad leol, i westai ac i fwytai. Mae'r rhain yn fwyd arbennig bob dydd trwy gydol y tymor ym Mwyty Shakespeare yng Ngwesty'r Castell yng Nghonwy (01492-582800)

Prynu a chadw cregyn gleision

Gellir prynu cregyn gleision o'r rhan fwyaf o siopau pysgod yn ystod y tymor (Medi - Ebrill), neu gan gyfanwerthwyr a thyfwyr (gweler isod). Yn ôl y gyfraith, bydd y rhain wedi'u puro mewn dwr glân i gael gwared ar unrhyw facteria. Dylent fod wedi'u cau'n dynn ag arogl ffres arnynt. Dylech osgoi y rhai sydd â llawer o wyddau môr neu chwyn arnynt, gan ei fod yn cymryd amser i'w glanhau.

Awgrymiadau:

  • Dylid cadw'r cregyn gleision mewn pecyn wedi'i gau'n dynn ar waelod y rhewgell hyd nes y byddwch eu hangen
  • Peidiwch â'u rhoi mewn dwr (bydd hyn yn eu 'boddi')
  • Pan fydd eu hangen arnoch, dylid eu golchi'n dda mewn dwr oer
  • Dylech gael gwared ar unrhyw edefion - y bissus - sydd ar ôl
  • Dylech daflu unrhyw gregyn gleision sydd wedi torri a'r rhai sydd ar agor ac na fydd yn cau wrth i chi eu paratoi neu wrth i chi eu tapio'n galed
  • Dylid eu stemio gyda chaead ar y sosban mewn 1cm o hylif (gweler y ryseitiau) ar dymheredd uchel. Ysgwydwch y sosban ar ôl 2 funud. Bydd y cregyn gleision wedi'u coginio pan fydd y cregyn yn agor - tua 3 - 4 munud
  • Taflwch y rhai sydd heb agor. Bwytewch y cregyn gleision ar unwaith gyda'r hylif coginio.
  • Cregyn gleision wedi'u stemio mewn cymysgedd o win gwyn, sialóts a pherlysiau yw'r clasur 'moules mariniere'. Mae'n bryd syml, gwladaidd a hynod o flasus. Mae nifer o amrywiaethau ar y thema, wrth ychwanegu garlleg, seleri, sbeisys, chilli, tomato, perlysiau, gwahanol winoedd, seidr, cwrw a sawrion. Ond y peth sylfaenol yw i beidio â gor-goginio'r cregyn gleision gan y byddant yn colli'u cynnwys dwr ac yn mynd yn wydn. Os caiff cregyn gleision eu defnyddio mewn rysait a ail-goginir fel 'moules farcies' gyda menyn garlleg a breision bara ar ei ben, mae'n rhaid eu coginio'n gyflym iawn ac am gyfnod a fydd yn eu cynhesu'n unig.

    Yr 'hylif' coginio

    Gall fod mor syml â gwin, cwrw, seidr, neu sieri sych, neu ddwr. Heb os, caiff y blas ei wella wrth goginio 'moules mariniere' clasurol

    1 cilo o gregyn gleision glân wedi'u paratoi fel yr uchod
    100 g o sialóts, wedi'u torri'n fân
    25ml o olew
    25g o fenyn
    1 sbrigyn mawr o deim, 2 ddeilen llawryf; 1 sbrigyn o barsli wedi'i dorri
    200ml gwin gwyn sych
    pupr du ffres
    darnau o lemwn a digonedd o bersli ffres wedi'i dorri

    Mewn sosban fawr gyda chaead, ffriwch y sialót yn ysgafn yn yr olew a'r menyn nes y byddant yn dryloyw. Ychwanegwch y perlysiau a'r gwin a'u lledferwi am 2 - 3 munud. Ychwanegwch y cregyn gleision, a rhowch gaead sy'n ffitio'n dda ar y sosban, a'u coginio ar y gwres uchaf, gan ysgwyd y sosban o bryd i'w gilydd, am tua 3 munud neu hyd oni fydd y cregyn i gyd wedi agor. Dylid eu gweini mewn powlenni mawr, gyda'r holl hylif coginio, wedi'u gorchuddio â phersli a darnau o lemwn.

    Sylwer: bydd rhai pobl yn ychwanegu hufen at yr hylif ar ôl gorffen coginio, neu yn ei dewychu gyda 'beurre manie'. Rydw i'n credu mai'r rysáit syml yw'r un gorau. Mae sieri sych yn gwneud y tro yn iawn yn lle'r gwin, ac fe allwch yfed Sieri Sych Manzanilla gyda'r cregyn gleision.

    I brynu cregyn gleision

    Dylai siopau pysgod a marchnadoedd werthu cregyn gleision yn ystod y tymor.

    Y Siop Bysgod, Builder Street, Llandudno LL30 1DR
    Ffôn: 01492 870430

    Fish on the Quay, Aberaeron SA46 0BT
    Ffôn: 01545 571294

    Ffair Fôr Sir Benfro, Marchnad Dinbych y Pysgod, Dinbych y Pysgod
    01834 844811

    Rotunda Bwydydd Môr, Marchnad Abertawe, Oxford Street, Abertawe
    Ffôn: 01792 654294

    Siop Bysgod Ashton, Marchnad Ganolog Caerdydd, Y Stryd Fawr, Caerdydd
    Ffôn: 029 2022 9201

    Tyfwyr a chyfanwerthwyr:

    Cwmni Cregyn Gleision Conwy, Y Cei, Conwy LL32 8BB
    Trevor Jones
    Ffôn: 01492 592347

    Wystrys Menai, Tal Bont Bach, LlanfairPG, Sir Fôn LL61 6UU
    Ffôn: 01248 430878
    Ebost: theoysterman@eidosnet.co.uk

    Gower Coast Seafoods, Heol Pen Cae Fenni, Crofty, Bro Gwyr SA4 3SW
    Ffôn: 01792 850796

    Bwydydd Môr Penclawdd, Ffatri Lynch, Llanmorlais, Abertawe SA4 3TN
    Ffôn: 01792 850033
    Gwefan: www.selwynsseafoods.co.uk
    Ebost: selwynsseafoods@freenetname.co.uk

    Allforwyr

    Myti Mussels, Port Penrhyn, Bangor LL57 4HN
    Ffôn: 01248 354878
    Ebost: kimmussels@hotmail.com

    Deep Dock Ltd,
    Ffôn: 01407 730588

    Ffeiriau Bwyd yng Nghymru

    Gwyl Fwyd Y Fenni 20 - 21 Medi 2003

    Disgrifiwyd un o wyliau bwyd mwyaf cyffrous Cymru, sydd wedi'i lleoli yn Y Fenni, gan Hugh Fearnley-Whittingstall gan ddweud y bydd 'Gororau Cymru'n bywiogi â hwyl a gwledda.' Cynhelir digwyddiadau ar draws y dref, gan gynnwys Neuadd y Farchnad, y Castell a Gwesty'r Angel.

    Eleni, ymhlith ein henwogion gwadd y mae Jill Dupleix, Georgio Lacatelli, Jonathan Meades, Ruth Rogers a Rose Gray, a Franco Taruschio. Bydd Neuadd y Farchnad yn cynnwys arddangosfa Gwir Flas gyda dros 70 o gynhyrchwyr bwydydd arbenigol. Caiff plant eu diddanu mewn gwersi coginio a gynhelir yn y castell wrth i rieni ymlacio.

    Ceir manylion llawn yr holl ddigwyddiadau a llefydd i aros yn:
    www.abergavennyfoodfestival.co.uk

    neu cysylltwch â Chanolfan Dwristiaeth Y Fenni
    Ffôn: 01873 857588
    Abergavenny.tic@monmouthshire.gov.uk

    Gwyl Fwyd Marchnad Abertawe ddydd Llun 29 Medi - dydd Sadwrn 4 Hydref

    Cynhelir wyl fwyd hynaf Cymru ym marchnad Abertawe, marchnad dan dô fwyaf Cymru sy'n enwog am ei dewis gwych o fwydydd lleol o Fro Gwyr a'r ardal. Ymhlith atyniadau'r wythnos bydd arddangosfeydd coginio bob dydd, diddanwch gan gorau ysgolion lleol a Nosweithiau Gourmet. Ceir manylion llawn gan
    Anita.Thomas@swansea.gov.uk

    Canllaw Cawsiau Cymreig yn ôl dull

    Canllaw Cawsiau Cymreig yn ôl dull

    Hen ddelwedd cawsiau Cymru oedd caws Caerffili a cheddar, a wnaed yn bennaf mewn hufenfeydd mawr heb unrhyw arbenigrwydd. Nawr, mae yna nifer o gynhyrchwyr fferm llai sy'n gwneud niferoedd sylweddol o gaws mewn amrywiaeth o ddulliau. Mae yna hefyd gwmnïau cydweithredol mwy o faint sy'n cynhyrchu caws gyda llaeth eu haelodau'n unig ac er eu bod yn cynhyrchu mwy o gawsiau maent yn gawsiau o ansawdd da a all gystadlu yn y prif farchnadoedd.

    Mae'r rhestr ganlynol yn ganllaw i'r dulliau o gawsiau sydd bellach ar gael gan gynhyrchwyr Cymreig. Cynhyrchir mwy na'r rhain, yn enwedig cawsiau â blas arbennig. Mae nifer o'r cawsiau hyn ar gael trwy'r grwp newydd Cawsiau o Gymru.

    Cawsiau Ffres

  • Pantysgawn
    Caws gafr organig, meddal, ffres
  • Caws gafr Pant Mawr mewn olew
    Caws gafr meddal, ffres mewn olew yr olewydd
  • Cawsiau Meddal

  • Pant Mawr Preseli
    Brie meddal hufennaidd a wneir mewn rowndiau fflat, gyda chrawen naturiol â blas egr llawn
  • Perl Wen

  • Caws Cenarth
    Brie cadarn hufennaidd mewn rowndiau fflat, wedi'i wneud o laeth organig gyda blas pur
  • Crawen wedi'i olchi / heb ei wasgu

  • Dewi Sant - Abergavenny Fine Foods
    Lled-feddal gyda chrawen wedi'i olchi mewn rowndiau fflat, gyda blas fferm aeddfed
  • Pant Mawr Cerwyn
    Lled-galed, mewn rowndiau fflat, heb ei wasgu, blas bras
  • Saval - Cawsiau Ty Fferm Teifi
    crawen wedi'i olchi, mewn rowndiau trwchus, heb ei basteureiddio, blas aeddfed hufennaidd
  • Celtic Promise - Cawsiau Ty Fferm Teifi
    Saval tra-aeddfed, rowndiau bychain, blas ty fferm bras
  • Lled-galed

  • Llaeth Dafad Acorn - Little Acorn
    Cosynnau bychain wedi'u cywasgu, crawen naturiol, hufennaidd, mwyn, briwsionllyd a blas egr
  • Llaeth Dafad Skirrid - Little Acorn
    Cosynnau bychain, crawen wedi'i olchi mewn medd, blas melus-egr hufennaidd a briwsionllyd
  • St Florence - cheddar mwyn
    Rowndiau wedi'u cywasgu gyda chrawen lliain, blas mwyn, siarp, briwsionllyd
  • Caerffili

  • Caws Cenarth Organig
    Olwynion 4 cilo organig hufen llawn, gyda blas cymhleth a gwead caled o stoc fferm o dras
  • Caerfai Organic
    Olwynion traddodiadol gydag egr hufennaidd a blas siarp
  • Gorwydd

    Math ty fferm traddodiadol mewn olwynion 4 cilo â chrawen dywyll naturiol, gwead hufennaidd ac oglau madarch fferm

    Cheddar Cymreig

    gan y cydweithredwyr ffermio a chwmnïau mwy, wedi'i becynnu i'w ddosbarthu i fanwerthwyr

  • Cheddar Aeddfed Hen Sir
  • Cheddar Aeddfed Eryri
  • Cheddar Organig Hufenfeydd y Castell
  • Welsh Gold Dyffryn Aeron
  • Cawsiau Caled

  • Llaeth Gafr Merlin
    Gwyn pur, caled, aeddfed mewn rowndiau bychain mewn cwyr gyda blas dwys a chymhleth
  • Llaeth Dafad Lammas Caws Celtica
    Rowndiau bychain caled, aeddfed, gyda gwead pecorino briwsionllyd â blas egr dwys
  • Gouda Ty Fferm Teifi
    Rowndiau mawr tebyg i gouda o gaws caled gyda llaeth hufen llawn, heb ei basteureiddio â blas dwys, bras
  • Cheddar Nantybwla
    Cosynnau traddodiadol o cheddar aeddfed mewn dull ty fferm traddodiadol, llawn blas a siarp
  • Cheddar Llangloffan
    Cosynnau mawr, traddodiadol, cheddar ty fferm tra-aeddfed gyda blas bras a siarp
  • Llanboidy Cilowen Organig
    Cheddar ty fferm organig traddodiadol o stoc Red Poll o dras, caws caled, gweddol aeddfed gyda blas bras dwys
  • Penbryn Organig
    Cosynnau bach traddodiadol wedi'u gwneud â llaw a heb eu pasteureiddio, gwead caled, blas hufennaidd bras
  • Cawsiau Glas

  • Cenarth Perl Las
    cosynnau bach, caled, gyda gwythiennau glas, blas bywiog ac aeddfed
  • Gorau Glas
    rowndiau bychain lled-feddal, glas iawn gyda blas llawn, hufennaidd a bras
  • Cawsiau ag Ychwanegion Blas a Chaws Mwg

    Mae'r rhan fwyaf o gynhyrchwyr yn gwneud rhai cawsiau ag ychwanegion blas neu gawsiau mwg, ac mae nifer ohonynt yn boblogaidd yn fasnachol. Dyma rai enghreifftiau:

  • Tintern gyda sifys
  • Y Fenni gyda mwstard a chwrw
  • Llanboidy gyda bara lawr
  • Teifi gyda danadl poethion
  • Snowdonia Green Thunder
  • Merlin gyda garlleg
  • Cerwyn Mwg
  • Celtica Mwg
  • Ceir manylion am gawsiau Cymreig yn www.walesthetruetaste.com (hafan -Caws Cymru)