Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion caws wedi?i ffrïo?n ddwfn gydag eirin
Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion
Article title

Cwmni olew o Ynys Mon yn plannu coed olewydd

Full article


Os soniwch am lwyni olewydd, bydd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl am yr Eidal, Gwlad Groeg neu Sbaen ond medrai hynny i gyd newid yn awr bod llwyn olewydd cyntaf Cymru wedi ei blannu yng Ngogledd Cymru.

Mae Calon Lân, cynhyrchydd olew coginio o Ynys Môn, wedi plannu 50 coeden olewydd yn ymyl gwinllan ar arfordir gogleddol yr ynys.

Bydd llwyn olewydd cyntaf Cymru yn sicr o danio dychymyg ffermwyr a pherchnogion tir am wir oblygiadau newid yn yr hinsawdd a fedrai arwain at hafau cynhesach a sychach a gaeafau mwynach.

Mae Calon Lân yn cynhyrchu olew camelina, afocado a chywarch ar gyfer coginio.

Mae’r syniad ar gyfer y prosiect yn deillio o syniad gan gyfarwyddwr y cwmni, Geraint Hughes, sy’n 28 oed ac yn fab fferm, a ddywedodd pa mor wych fyddai tyfu olewydd yng Nghymru.

Unodd gydag asiantaeth Menter Môn a’r perchennog gwinllan lleol Tom Barlow o Winllan Padrig i ganfod coed o ardal yn yr Eidal sy’n cynhyrchu olewydd er ei bod yn cael rhew ac eira yn ystod y gaeaf.

Dylai’r math hwn roi’r cyfle gorau o gynhaeaf llwyddiannus ac mae cyfran o’r coed a blannwyd yn ddigon hen i gynhyrchu o gael yr amodau cywir.
“Yr hyn rydym ei angen yw nemor ddim barrug yn y gaeaf a dyddiau crasboeth yn yr haf,” esboniodd Geraint Hughes o Bwydydd Calon Lân. “Medrem ei chael yn anodd cael cnwd da o olewydd i ddechrau, ond mater o amser fydd hi i gael yr amodau cywir. Mae Calon Lân eisiau bod y cyntaf i werthu olewydd a dyfwyd yng Nghymru.”

Mae gan goed olewydd oes hir, gyda disgwyliad oes o 500 mlynedd. Gall coeden dyfu hyd at 50 troedfedd o uchder, ond caiff coeden a gaiff ei chadw’n dda a’i thocio’n rheolaidd ar gyfer cynaeafu masnachol ei chadw i tua 20 troedfedd o uchder.

“Mae’r coed wedi addasu’n dda ar gyfer tyfu mewn pridd tenau a charegog”, meddai Geraint Hughes. “Mae rhai sy’n darogan yr hinsawdd yn dweud y bydd Cymru yn debyg i dde Ffrainc mewn 20-30 mlynedd, felly waeth i ni ddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol.
“Ni all neb gymeradwyo achosion newid yn yr hinsawdd, ond mae’n rhaid i ni feddwl am gyfleoedd y dyfodol neu fe fyddwn yn ei chael yn anos byth,” meddai.

Mae’r cwmni o Langefni yn bartneriaeth rhwng Geraint Hughes - cyn reolwr y Ganolfan Defnydd Tir Amgen ym Mhrifysgol Cymru, Bangor ac asiantaeth Menter Môn. Derbyniodd y fenter gyllid gan gynllun LEADER+ y Gymuned Ewropeaidd sy’n cynorthwyo cymunedau gwledig.

“Rydym yn eithaf hyderus y medrai hwn fod y llwyn olewydd mwyaf gogleddol yn Ewrop,” meddai Dafydd Gruffydd, Rheolwr Busnes Menter Môn. “Fedrwch chi ddim mynd lawer mwy i’r gogledd na Llanbadrig a dal i gael manteision Llif y Gwlff.

“Rydym yn bendant yn edrych ar hwn fel arbrawf. Caiff y gwaith ei gefnogi gan Raglen Leader+ Ewrop sy’n ein galluogi i ddatblygu mentrau blaengar ar Ynys Môn gyda chwmnïau lleol fel Calon Lân. Ein nod gyda’r llwyn olewydd yw agor llygaid pobl i’r hyn sy’n bosibl ar Ynys Môn.

“Rydym wedi gweld Calon Lân yn gyflym yn ennill enw iddo’i hunan am ddatblygu bwydydd iach newydd a blaengar megis olew camelina. Teimlwn y medrai ffermwyr Ynys Môn fanteisio ar frand Calon Lân i fasnacholi olewydd a dyfir yn lleol.”

Plannwyd llwyn olewydd cyntaf Prydain yn Nyfnaint y llynedd a’r ail yn Swydd Amwythig yn gynharach eleni.

Leigh Roberts 01656 788366
E-bost: leigh@colemanroberts.co.uk

Calon Lan Cyf
Llys Goferydd
Bryn Cefni
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7XA
Ffôn: 01758 612621
E-bost: geraint@madryn.co.uk
Cyswllt:Geraint Hughes

Bwriedir cynnal diwrnod agored yn yr haf. I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â Dafydd Gruffydd ym Menter Môn ar 01248 725713 neu Geraint Hughes yn Calon Lân yn 01758 612621 neu gweler www.calonlanfood.com.

Ffeithiau am olewydd
Mae coed olewydd yn tyfu’n naturiol yn rhanbarth y Môr Canol, Asia drofannol a chanolog a gwahanol rannau o Affrica.
Mae tystiolaeth archeolegol yn awgrymu fod olewydd yn cael eu tyfu yng Nghreta mor bell yn ôl â 2,500 C.C.
Mae’r olewydd yn goeden fytholwyrdd yn tyfu i 50 tr mewn uchder gyda chwmpas o tua 30 tr.
Mae ffrwyth yr olewydd yn aeronen werdd, gan droi’n borffor tywyll fel arfer pan maent yn aeddfed iawn.
Mae ychydig fathau yn wyrdd pan maent yn aeddfed a rhai yn troi yn fath o frown copr.
Mae’r cyltifarau yn amrywio mewn maint, siâp, cynnwys olew a blas.
Mae’r siapiau yn amrywio o bron grwn i hirgrwn neu hir gyda blaenau pigfain.Caiff ffrwythau olewydd sydd i gael eu prosesu fel olewydd gwyrdd eu casglu pan maent yn dal i fod yn wyrdd ond wedi cyrraedd maint llawn. Medrant hefyd gael eu casglu i’w prosesu ar gam diweddarach hyd at fod yn llawn aeddfed

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 27 April 2007