Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Bara lawr ffres gyda lemon Crempog Cocos
Cig Hwyad Hallt Cymreig ac Eirin Damson wedi'u piclo
Article title

Gwylwyr Teledu i gael Gwir Flas Cymru

Full article

Mae cwmnïau bwyd a diod Cymru yn medi manteision gwerthu drwy’r sgrin fach ar ôl cael eu dangos ar sianel siopa teledu QVC.

Bu ymateb y cyhoedd i ddwy sioe ‘Gwir Flas Cymru’ a ddangoswyd ar y sianel yn galonogol iawn, ac mae wedi galluogi siopwyr cartref o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i brynu cynnyrch o Gymru.

Mae’r prosiect, sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r cwmni siopa teledu QVC, wedi galluogi rhai o gynhyrchwyr mwyaf adnabyddus Cymru i gyflwyno eu cynnyrch i gynulleidfa newydd.

Cafodd y sioe gyntaf ei darlledu’n fyw ar 23 Tachwedd 2006 - noson cynnal Gwobrau Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru. Cafodd y sioe awr o hyd ei chyflwyno gan Simon Biaggi o QVC ynghyd ag Angela Gray, sy’n adnabyddus am ysgrifennu a darlledu ar fwyd Cymru.

Roedd yr amrediad o gynnyrch o Gymru y rhoddwyd sylw iddynt yn cynnwys detholiadau unigol a chymysg. Roedd rhai detholiadau cymysg yn cynnwys cynnyrch gan fwy nag un cwmni.

Un o’r ffyrdd y mae QVC yn mesur perfformiad yw’r gymhareb o werthiannau fesul munud o amser awyr, gyda rhai cynnyrch yn gwerthu allan yn llwyr o fewn munudau o gael eu darlledu. Yn ystod y sioe awr o hyd, roedd gwerth y gwerthiannau adwerthu bron yn £41,000.

Yn yr ail sioe Gwir Flas, a ddarlledwyd ar Ddydd G?yl Dewi (1 Mawrth), cynyddodd cyfanswm y gwerthiant i £43,000.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae amrediad o gynhyrchwyr bwyd o Gymru wedi chwrdd â phrynwyr QVC mewn dau ddigwyddiad arbennig ‘Cwrdd â’r Prynwr’ yn y Canolbarth a Chaerdydd gan eu cyflwyno i amrywiaeth o fwydydd arbenigol o Gymru.

Gyda’r rhaglen ‘Gwir Flas Cymru’ nesaf eisoes wedi ei chynllunio ar gyfer canol-dydd 22 Gorffennaf, gobeithir y cynhelir mwy o sioeau yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn rhoi sylw i hyd yn oed fwy o gynnyrch Cymru.

Dywedodd Norma Barry, Cyfarwyddwr Adran Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru, “Mae siopa bwyd yn un o’r meysydd sy’n tyfu gyflymaf ar QVC.

“Yn wir, mae gwerthiant blynyddol un o gyflenwyr cig QVC wedi cynyddu i tua £1.5m mewn dim ond ychydig dros ddwy flynedd o fasnachu. Mae’r cyfle i gynhyrchwyr bwyd Cymru felly yn un sylweddol.”

MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk

NODIADAU I’R GOLYGYDD

Kelly-Ann Teasdale yn Attenborough Saffron
Ffôn: 0207 067 1597
E-bost: kellyannt@attenborough.net


Cwmnïau o Gymru a gafodd sylw ar QVC

Cwmni Caws Eryri
Uned B6
Trem y Dyffryn
Stad Ddiwydiannol Colomendy
Dinbych
LL16 5TX
Cyswllt: Owen Jones
Ffôn: 01745 813388
E-bost: sales@snowdonia-cheese.co.uk
Gwefan: www.snowdoniacheese.co.uk

Clam’s Hand Made Cakes
T? Lewis Parry
Uned 4, Parc Busnes Elvicta
Crughywel
Powys
NP8 1DF
Cyswllt: Lewis Phillips
Ffôn: 01873 812283
E-bost: lewis@clamscakes.co.uk
Gwefan: www.clamscakes.co.uk

Cheeses From Wales
Ty’n-y-Llwyn
Pontrhydygroes
Ystrad Meurig
SY25 6DP
Cyswllt: Gill Pateman
Ffôn: 01974 282572
E-bost: gill@cheesesfromwales.com
Gwefan: www.cheesesfromwales.com

Kid Me Not
Fferm Ffynnongrech
Talyllychau
Llandeilo
Sir Gaerfyrddin
SA19 7BZ
Cyswllt: Loraine Makowski Heaton
Ffôn: 01558 6859351
E-bost: loraine@kidmenot.co.uk
Gwefan: www.kidmenot.co.uk

Pembertons Chocolates
The Welsh Chocolate Farm
Llanboidy
Hendy Gwyn ar Daf
Sir Gaerfyrddin
SA34 0EX 
Ffôn:  01994 448 800
Cyswllt: Emily Jones 
E-bost: chocolate.farm@btopenworld.com
Gwefan: www.welshchocolatefarm.com

Harvies Pies
Fferm Waen
Nercwys
Sir y Fflint.
Cyswllt: Carol Harvie
Ffôn: 01352751285
Symudol: 07813 810721
E-bost:pastry5@btconnect.com

Welsh Farm Organics
Ty’n y Fron
Pentre
Mochdre
Powys, SY16 4JW
Cyswllt: Jonathan Rees
01686 627979
E-bost: sales@welshfarmorganics.co.uk
www.welshfarmorganics.co.uk


Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 2 April 2007