Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Fflowlyn wedi?i rostio gyda stwffin caws llaeth gafr a pherlysiau caws wedi?i ffrïo?n ddwfn gydag eirin
Pice ar y maen
Article title

Hurns Yn Anelu Am Sgor Uchel Gyda Chwrw'r Gamp Lawn

Full article

Mae’r Hurns Brewing Company, y bragwyr gwobrwyol o Gymru, wedi lansio cwrw newydd a ysbrydolwyd gan fuddugoliaeth Camp Lawn tîm rygbi Cymru

 

Dywedodd Connie Parry, cyd-berchennog y cwmni, fod y Grand Slam Ale yn gwrw ‘blas hopys, chwerw, euraid’ sy’n cyfateb a’r “gorfoledd” a deimlodd pobl Cymru yn dilyn buddugoliaeth y tîm cenedlaethol.

 

“Roeddem eisiau creu cwrw i ddathlu llwyddiant Cymru yn y Gamp Lawn,” meddai Connie. Sefydlwyd y busnes gan ei hen-daid ar droad y 19eg ganrif.

 

“Yn wir roedd fy mrawd mor hyderus y byddai Cymru’n ennill fel ei fod eisiau cychwyn ei gynhyrchu cyn y gêm olaf. Ond fe wnaethon ni benderfynu aros hyd y chwiban ddiwethaf rhag ofn ein bod yn dod ag anlwc i’r tîm!”

 

Gyda ABV o 4.7%, mae’r Grand Slam Ale ar gael ar ddrafft yn nhafarndai’r cwmni.

 

Mae’r cwmni teuluol o Abertawe yn cynhyrchu amrediad o fathau cwrw dan frand Tomos Watkin, ac mae ganddynt 20 tafarn ar draws de orllewin Cymru, yn cynnwys The Robin Hood a’r Clarence yn Abertawe, The Crofty Inn ym Mhenclawdd, Kings Arms yn Hwlffordd a’r PS Bar ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Mae’r Grand Slam Ale yn ymuno â phortffolio’r cwmni, sydd wedi ennill nifer o wobrau Gwir Flas, yn amrediad Tomos Watkins yn ogystal â’r seidr Taffy Apples cynyddol boblogaidd a nifer o fathau amrywiol o gwrw casgen megis Cwrw Haf, Cwrw Santa a Dewi Sant.

 

Mae Hurns yn llwyddiannus iawn yn y maes bragu. Fis Hydref diwethaf enillodd Magic Lagyr y cwmni wobr enillydd rhanbarthol Tesco 2008 Cymru. Yn ogystal â gwobrau Gwir Flas, mae’r cwmni wedi ennill nifer fawr o wobrau CAMRA (Ymgyrch Cwrw Go Iawn) am ei gwrw casgen.

 

Mae cwrw ac enw da’r cwmni yn ymestyn ymhell y tu allan i Gymru. Aeth cwrw’r bragdy ar werth yn ddiweddar ym mhob un o 50 talaith yr Unol Daleithiau, a sicrhawyd cytundeb allforio gyda Denmarc yn ddiweddar - gwlad sy’n adnabyddus am ei diwydiant bragu.

 

Yn ychwanegol, yn dilyn presenoldeb Hurns yn arddangosfa fwyd a diod Alimentaria International ym Marcelona fis diwethaf, lle arddangosodd y cwmni dan faneri Busnes Rhyngwladol Cymru a Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae’r cwmni wedi sicrhau ei archeb allforio gyntaf o Sbaen.

  

 

NODIADAU I’R GOLYGYDD

 

 

I gael gwybodaeth bellach am y cwmni cysyllter â:

 

The Hurns Brewing Company

The Kingsway

Stad Ddiwydiannol Fforestfach

Abertawe

SA5 4DL Kingsway,
Cyswllt: Connie Parry

E-bost: beer@hurns.co.uk

Ffôn: 01792 560020

Gwefan: www.hurnsbeer.co.uk

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 14 April 2008