Mae Llaeth y Llan, y cynhyrchydd iogwrt gwobrwyol, yn ehangu ei sylfaen manwerthu ledled Cymru gyda chytundeb i gyflenwi Tesco.
Eisoes yn adnabyddus am gynhyrchu iogwrt cyfoethog a hufennog gyda blasau blaengar, bydd cytundeb cyntaf y cwmni i werthu mewn archfarchnad yn golygu y bydd chwech o flasau iogwrt y cwmni - Taffi, Ceirios Du, Ffrwythau’r Goedwig, Mafon Cochion, Mefus a Riwbob - ar gael mewn siopau yng Ngogledd Cymru.
Yn 1980 y penderfynodd y ffermwyr llaeth Gareth a Falmai Roberts arallgyfeirio o werthu llaeth yn y pentref i gynnyrch llaeth eraill a ganwyd Llaeth y Llan.
Gwneir yr iogwrt hufennog ar fferm y teulu o laeth a gynhyrchir yn lleol - a hefyd o fuches Gareth a Falmai o 50 o wartheg godro.
Mae’r amrediad yn cynnwys 14 blas iogwrt ffrwythau a phedwar iogwrt pwdin gwirod yn cynnwys Coffi Celtaidd, Brandi a Bricyll, Rym Tywyll a Rhesin, Lemoncello a Lemon.
Yn ddiweddar lansiodd y cwmni bot newydd maint teulu 450 g mewn dau flas ffrwythau - Melba Eirin Gwlanog a Mefus.
Mae iogwrt Llaeth y Llan wedi ennill nifer fawr o wobrau, a chlywsant yn gynharach y mis hwn fod ei iogwrt Lemon a Lemoncello wedi ennill gwobr aur yng ngwobrau Great Taste.
“Rydym wrth ein boddau fod ein hiogwrt ar gael yn siopau Tesco”, meddai Falmai Roberts.
“Rydym hefyd yn sylweddoli pwysigrwydd brandio a’n neges yw bod gan ein cynnyrch yn llawn ffrwythau a llawn blas!”
Dywedodd Mark Grant, Uwch Brynwr Tesco yng Nghymru: “Rydym yn frwd i werthu cynifer o gynnyrch lleol ag y medrwn ac rydym felly’n falch iawn i fedru cynnig cynnyrch gwych arall a wnaed yng Nghymru i’n cwsmeriaid”.
Daeth y cwmni, sydd hefyd wedi ennill gwobr Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru, ymhell ers i’r iogwrt cyntaf gael ei wneud mewn bwcedi dur gloyw a’i feithrin yng nghwpwrdd cynhesu’r ffermdy.
Mae cerwyni pwrpasol wedi cymryd lle’r bwcedi ac mae’r dechnoleg ddiweddaraf yn gofalu am y broses feithrin. Mae’r cwmni’n dal i fod yn fusnes teuluol ac mae Owain, mab Gareth a Falmai Roberts, wedi ymuno â’r cwmni sydd â’i weithlu yn dod o bentref cyfagos Llanefydd.
Mae Llaeth y Llan yn arddangos yn gyson mewn sioeau bwyd arbenigol a digwyddiadau megis Sioe Frenhinol Cymru, gan gymryd rhan dan fantell baner Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’r cwmni hefyd wedi derbyn help a chyngor gan Farchnata Gwir Fwyd, cynllun a gaiff ei reoli gan Menter a Busnes a’i gefnogi gan Is-adran Datblygu Bwyd a’r Farchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n helpu busnesau bwyd a diod Cymru i ddatblygu ym marchnad y Deyrnas Unedig.
I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch cysyllter â:
Llaeth y Llan
Fferm Tal-y-Bryn
Llanefydd
Dinbych
LL16 5DR
Ffôn: 01745 540 256
Cyswllt: Falmai Roberts
E-bost: llaeth@villagedairy.co.uk
Gwefan: www.villagedairy.co.uk