Mae cwmni llaeth o Gymru sy’n cynhyrchu diodydd blaslaeth ar gyfer plant wedi ennill gwobr am ragoriaeth, gyda phlant 5 i 12 oed ar y panel beirniaid.
Enwyd amrediad blaslaeth organig Daioni a gynhyrchir gan Trioni Cyf yn ddiod orau i blant yn y gwobrau Rhagoriaeth mewn Bwyd a gynhelir gan gylchgrawn The Caterer and Hotelkeeper.
Mae’r gwobrau blynyddol yn cydnabod rhagoriaeth mewn cynnyrch a anelwyd at y diwydiant gwasanaeth bwyd a chânt eu beirniadu gan chefs a beirniaid bwyd blaenllaw. Mae’r categori plant 3663 a noddir hefyd yn cael ei feirniadu gan banel iau oedd yn frwdfrydig am Daioni siocled gan ddweud ei fod ganddo “flas neis, yn drwchus a llawn swigod”.
Datblygwyd amrediad diodydd blaslaeth Daioni gan gwmni Trioni o Sir Benfro yn lle’r diodydd pop llawn siwgr sydd ar gael fel arfer i blant, ac fe’u lansiwyd yn 2003.
“Rydym yn arbennig o falch i ennill y wobr hon gan y cynlluniwyd Daioni ar gyfer plant ac felly mae cael ein dewis gan y beirniaid ifanc yn golygu ein bod wedi cyflawni ein nod,” meddai Laurence Harris, cyd-sefydlydd a rheolydd gyfarwyddwr Trioni.
“Cynhaliwyd ein treialon blasu cyntaf mewn ysgolion yn Sir Benfro, ac felly rydym wedi dod y cylch llawn,” meddai Teleri Thomas, Rheolwr Marchnata Trioni a dderbyniodd y wobr gan y chef enwog Aldo Zilli yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Dorchester yn Llundain (23 Tachwedd).
Yn isel mewn braster heb unrhyw liwiau artiffisial neu gadwolion, mae’r diodydd ar gael mewn pedwar blas - siocled, mefus, banana, a llugaeron a mafon cochion.
Bu’n flwyddyn dda i’r busnes teuluol. Enillodd fedal aur yng Ngwobrau Gwir Flas 2007 a bu’n llwyddiannus yn ddiweddar yn ei gynnig i gael ei gynnwys yn y contract fframwaith ar gyfer Consortiwm Pwrcasu Cymru - sy’n trin caffaeliad ar gyfer awdurdodau unedol ledled De Cymru - a bydd Daioni ar gael mewn ysgolion yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, gyda’r posibilrwydd o gael ei ddefnyddio gan bob un o’r 12 cyngor.
Bu’r cwmni, sydd hefyd wedi ennill gwobr Gwir Flas, yn y BBC Good Food Show yn Birmingham yr wythnos ddiwethaf fel rhan o Stondin Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru lle gwerthwyd y diodydd i filoedd o ymwelwyr.
“Mae ennill unrhyw wobr yn wych i’n cwmni gan ei fod yn gadarnhad annibynnol o’n cynnyrch,” meddai Teleri.
Mae’r cwmni wedi derbyn amrywiaeth o gymorth ac mae’n cymryd rhan yng nghynllun Marchnata Gwir Fwyd, a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Undeb Rygbi Cymru a nifer o’r prif glybiau rygbi ynghyd â chlwb pêl-droed yn canmol Daioni, ac mae ar gael ar draws Prydain yn ogystal ag yng Ngwlad Groeg, Malta, Cyprus ac Awstralia.
I gael manylion pellach am gynnyrch cysyllter â:
Trioni Cyf
Ffosyficer
Abercych
Boncath
Sir Benfro
SA37 0EU
Ffôn: 01239 682572
E-bost: teleri@trioni.com
Gwefan: www.trioni.com
Cyswllt: Teleri Thomas