Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Caws Pob Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr
Caws Pob
Article title

Halen Mon Yn Cymryd Enwogrwydd Sioe Deledu'r BBC Gyda Phinsaid O Halen

Full article
Bydd cynhyrchwyd halen môr byd-enwog Halen Môn yn mwynhau ychydig funudau’n fwy o sylw pan fyddant yn ymddangos ar sioe deledu Ready Steady Cook ar y BBC fis nesaf (4 Mawrth).
 
Dangosir tîm o’r cwmni - sy’n enillwyr gwobrau Gwir Flas -  yn mynd â bag o gynhwysion i’r chefs enwog ar y sioe i’w defnyddio.
 
Roedd y sêr teledu Angus Purden o raglen Cash in the Attic a Dave Harper o raglen Bargain Hunt yn bartneriaid i’r chefs, a fydd yn coginio seigiau yn defnyddio cynhwysion o fag y BBC.
 
Bydd Garrey Dawson a Paul Rankin yn paratoi seigiau gyda chynhwysion ym mag Halen Môn.  Byddant yn cynnwys bwydydd lleol o Ynys Môn yn cynnwys, wrth gwrs, Halen Môn Mwg a chaws glas lleol, Gorau Glas.
 
Gwnaeth y chefs salad o gennin a chig moch, gan rostio tomatos ar wahân gyda halen mwg a dresin o gaws Gorau Glas a spagattini, a dilyn hyn gyda orenau a hufen gyda halen mwg wedi’i gymysgu gyda cardamom.
 
Holodd Ainsley Harriott, cyflwynydd y sioe, dîm Halen Môn sut y dechreuodd y cwmni. Ateb David Lea Wilson, sefydlydd y cwmni, oedd “Mae popeth da yn cychwyn yn y gegin ac yn ein cegin ni y cychwynnodd Halen Môn gyda sosban ar yr Aga a llond sosban o heli.”
 
Mae’r cwmni’n cynhyrchu halen môr mewn pum blas: pur, mwg, sbeislyd, fanila ac yn awr seleri.
 
Helpwyd y cwmni gan nifer o raglenni cymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y diwydiant bwyd a diod.
 
Yn ddiweddar enillodd y cwmni wobr Feria de Gastronomia, wedi’i dewis gan chefs gyda sêr Michelin fel bod ymysg y pum cynhwysyn gorau ar gael yn y byd - cymeradwyaeth ryfeddol sydd yn sicr o gynyddu’r galw ymhellach byth.
Teithiodd  David Lea-Wilson, Nicki Hughes, William Burgess, Alison Mummery a Phillip Roberts o Ynys Môn i stiwdio teledu’r BBC yn Llundain.
“Roedd yn bwysig i ni ddangos i’r gwylwyr fod ein halen môr yn dda i bawb nid dim ond y chefs enwocaf, felly mae cyrraedd tair miliwn o wylwyr drwy Ready Steady Cook yn hwb enfawr i ni,” meddai David Lea Wilson.
“Roedd yn dangos i’r gwylwyr sut y medrir gwneud seigiau syml fel tomatos wedi grilio‘n gofiadwy drwy ychwanegu ein halen mwg, a bydd hyn yn annog mwy o bobl i brofi Halen Môn.”
Roedd yn brofiad cofiadwy i’r holl staff, meddai David.
“Roedd yn hwyl hefyd gweld pa mor rhyfeddol o broffesiynol yw tîm Ready Steady Cook,” meddai.
 
“Ond roedd yn ddiwrnod hir - 16 awr - i ymddangos ar y teledu am tua munud ond bydd tua thair miliwn o bobl yn ei weld, felly roedd yn werth yr ymdrech!”
 
 Darlledir y sioe ddydd Mawrth 4 Mawrth am 4.30pm ar BBC2
 
Mae llun o dîm Halen Môn gyda Ainsley Harriott yn stiwdio Ready Steady Cook ar gael. E-bost leigh@colemanroberts.co.uk.
Sefydlwyd y cwmni yn 1996.
Mae’n cyflogi 14 o bobl.
Mae trosiant y cwmni dros  £600,000 ac yn cynyddu’n gyflym.
Mae’n allforio i 21 o wledydd yn bennaf yn Ewrop yn arbennig i’r Eidal a Sbaen, ond hefyd i’r Unol Daleithiau a Hong Kong.
Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 12 February 2008