Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan mewn dau ddigwyddiad sy’n anelu i gynyddu faint o gynnyrch Cymru sydd ar gael yn siopau’r Co-op.
Mae’r ddau ddigwyddiad yn rhan o gynllun adwerthu ‘Mynd am Dwf’ Llywodraeth Cynulliad Cymru, a gyflwynir gan Levercliff, sy’n helpu cynhyrchwyr i ateb anghenion adwerthwyr mawr.
Yn Fforwm Cyflenwyr Bach y Co-op a gynhelir heddiw (28 Chwefror) yn siop y cwmni yn y Pîl, clywodd 33 cwmni sydd eisoes yn cyflenwi siopau’r cwmni ar draws Cymru am y cyfleoedd sy’n bodoli i gynhyrchwyr o fewn y gadwyn adwerthu.
Er y bu rhai o’r cwmnïau’n cyflenwi’r Co-op ers peth amser, dim ond ym mis Awst 2007 y lansiodd rhai o'r cwmnïau gynnyrch newydd gyda’r cwmni.
Lansiodd yr Authentic Curry Company o Hirwaun ddau gyri yn siopau’r Co-op yn haf y llynedd. Mae Paul Trotman, sefydlydd a rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, wrth ei fodd gyda’r ymateb.
“Rydym wedi cael ymateb gwych gan gwsmeriaid y Co-op ers i ni lansio ein cyri Cig Oen a Chennin a’n cyri Eidion Du Cymreig,” meddai Mr Trotman. “Rydym yn falch iawn i fod yn rhan o’r rhaglen Mynd am Dwf a fu’n help mawr wrth gyflenwi gwerthiant a’n safle yn y farchnad.”
Dywedodd Andy MacLachlan, rheolwr cyrchu a datblygu lleol y Co-op, “Rydym yn wirioneddol falch y bu’r Co-op yn gwasanaethu anghenion pobl Cymru am dros 140 mlynedd. Fel adwerthwr cymunedol, teimlwn ei bod yn bwysig gwerthu cynnyrch lleol yn ein siopau, ac rydym yn gweithio’n agos gyda’n cyflenwyr i sicrhau ein bod yn cynnig cynnyrch lleol safon uchel i gwsmeriaid.
“Rydym yn falch iawn i weithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y cynllun hwn. Mae gan Gymru lawer o gyflenwyr lleol ac rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chynhyrchwyr newydd gyda golwg ar ffurfio partneriaethau newydd.”
Yfory (29 Chwefror), bydd deg cynhyrchydd arall sy’n gobeithio dod yn gyflenwyr yn cael cyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o’r Co-op mewn digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr, hefyd yn y siop yn y Pîl.
Dywedodd Tony Griffiths, pennaeth Uned Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru a gymerodd ran yn y Fforwm, “Mae’r rhaglen datblygu masnach yma’n gyfle gwych i gynhyrchwyr Cymru i ymchwilio marchnadoedd mwy a sicrhau datblygiad pellach o fewn y sector adwerthu.”
NODIADAU I’R GOLYGYDD
LLUN: Andy MacLachlan, rheolwr cyrchu a datblygu lleol y Co-op gyda Tony Griffiths, pennaeth Uned Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru, a chynhyrchwyr yn Fforwm Cyflenwyr Bach y Co-op.
CYFLENWYR SY’N MYNYCHU FFORWM CYFLENWYR BACH Y CO-OP (28 CHWEFROR)
Cwmnïau a lansiodd gynnyrch newydd gyda’r Co-op ym mis Awst 2007
The Authentic Curry Company
Welsh Pantry
Trioni Cyf
Adwell Foods
Edwards o Gonwy
Welsh Lady Preserves
Hufenfa De Arfon
Thayers
Brays
Mary’s Farmhouse
Tovali
Princes Gate
New Quay Honey
Bacheldre
Cwmnnïau oedd yn cyflenwi’r Co-op cyn mis Awst 2007
Llaeth y Llan
Pencader Bakery
Tregroes Waffles
Hurns Brewery
Cambrian Hills
Evans Rees
Rhymney Brewery
Welsh Cottage Cakes
CWMNIAU’N MYNYCHU’R DIGWYDDIAD CWRDD Â’R PRYNWR (29 CHWEFROR)
Welsh Mustard Company
Henllan Bakery
Lowes
Gwynt y Ddraig
Kid Me Not
Cwmni Caws Caerfyrddin
Tan y Castell
Oats So Good
Calon Wen
Cambrian Pet Food
The Knobbly Carrot Co
Derimon Smokery
Sheila Coleman
Partner
Coleman Roberts Communications
Tel: 01792 817532 / 07968 357474
www.colemanroberts.co.uk