Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Caws Pob Wyau pob organic
Pastai filo sbiboglys a chaws
Article title

Cynhyrchwyr Bwyd a Diod Cymru Yn Gobeithio "Mynd Yn Gyhoeddus" Mewn Digwyddiad Caffaeliad

Full article
Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn cael cyfle i symud i’r farchnad caffaeliad cyhoeddus gyda digwyddiad arbennig ‘Cwrdd â’r Prynwr’ a gynhelir yng Nghaerfyrddin ddydd Iau (31 Ionawr).
 
Dyma’r tro cyntaf i ddigwyddiad o’r math hwn sydd wedi’i dargedu’n benodol at y sector cyhoeddus gael ei gynnal yng Ngorllewin Cymru.
 
Wedi’i drefnu gan Adran Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru, agorir y digwyddiad gan Elin Jones, Gweinidog Materion Gwledig.
 
Mae’r digwyddiad a gynhelir yng Nghanolfan Halliwell yng Ngholeg y Drindod yn cynnig cyfle i gwmnïau o bob maint i gyflwyno eu cynnyrch i ddarpar gwsmeriaid newydd o’r sector cyhoeddus.
 
Dywedodd y Gweinidog, “Mae’r sector cyhoeddus yn farchnad sylweddol ar gyfer cwmnïau bwyd a diod Cymru.  Mae caffael bwyd lleol wedi cynyddu gyda help rhaglenni cymorth a gaiff eu rhedeg gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
 
“Rwy’n si?r y bydd y digwyddiad hwn o fudd mawr i’r cynhyrchwyr bwyd a diod hynny sy’n cymryd rhan yn ogystal â sefydliadau a chyrff cyhoeddus sy’n dymuno sicrhau cynnyrch a gwasanaethau ansawdd uchel wedi’u cynhyrchu’n lleol.”
 
Bydd cyfanswm o 27 cwmni - llawer ohonynt wedi ennill gwobrau’r Gwir Flas - yn cymryd rhan yn y digwyddiad gan gynnig amrediad eang o nwyddau a gwasanaethau. Daw’r cynhyrchwyr sy’n cymryd rhan o sawl sector o’r sector bwyd a diwydiant yn cynnwys: cynnyrch llaeth, pysgod, cig, llysiau, diodydd a dosbarthu.
 
Bydd awdurdodau lleol, Ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, colegau a phrifysgolion, heddlu a’r gwasanaeth tân ymysg y cyrff cyhoeddus a gaiff eu cynrychioli yn y digwyddiad.
 
 
Cwmnïau bwyd a diod yn arddangos yn y digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’:
 
Llaeth
Llaeth Bethesda
Ffôn: 01437 563039
                                      
Calon Wen
Ffôn: 01994 241 481
 
Cynnyrch Llaeth
Franks  
Ffôn: 01269 832400                                       
 
Daioni
Ffôn: 01239 682572                                                   
 
Cowpots           
Ffôn: 01994 240434                           
 
Caws Cenarth
Ffôn: 01239 710432
  
Menyn Evan Rees
Ffôn: 01792 310567
                          
 
Pysgod
JS Fish Direct
Ffôn:01646 680041
                                      
 
Cynnyrch Cig
Jones y Cigydd
Ffôn: 01570 422414
                          
Howells Cigydd
Ffôn: 01792 850371
 
The Welsh Sausage Company         
Ffôn: 01938-552331
 
Cig Bethesda
Ffôn: 01437 563124
 
Cig Calon Cymru
Ffôn: 01269 842131   
                                      
Cynnyrch Groser Gwyrdd
The Fresh Produce Centre
Ffôn: 01437 760166
 
The Organic Fresh Food Co
Ffôn: 01570 424424
              
Crewmint
Ffôn: 01269 597522                                       
 
Wyau
Wyau Buarth Birchgrove
Ffôn: 01974 261286   
 
Diodydd
D?r Princes Gate & Princes Gate Cool
Ffôn: 01834 831 225
                                                  
Radnor Hills Mineral Water Co          
Ffôn: 01547 530220
 
Welsh Brew
Tel : 01792 363391
                                      
Arall
Lewis Pies
Ffôn: 01792 579908
                                      
Paninis 
Ffôn: 01792 587711
                          
Oat So Good   
Ffôn: 01792 899552                           
 
Farm Fresh Foods
Ffôn: 07966 599 069
                          
Tatws
Puffin Produce
Ffôn: 01437 766716
                          
 
Dosbarthwyr
Castell Howell
Ffôn: 01267 222000
                          
Redbridge
Ffôn: 01348 872287
 
 
Sefydliadau o’r Sector Cyhoeddus sy’n mynychu’r digwyddiad:
 
Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Consortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru HEPCW
Athrofa Addysg Uwch Abertawe
Coleg y Drindod
Coleg Gorseinon
Coleg Ceredigion
Coleg Sir Benfro (Compass)
Coleg Caerfyrddin
Cyngor Sir Benfro
Cyngor Sir Caerfyrddin
Sir a Dinas Abertawe a Chastell Nedd a Phort Talbot
Cyngor Sir Powys
Cyngor Sir Ceredigion
Ymddiriedolaeth GIG Caerfyrddin
Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg
Ymddiriedolaeth GIG Abertawe
Ymddiriedolaeth GIG Sir Benfro
Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion
Cyflenwadau Iechyd Cymru
Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 31 January 2008