Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Cig Hwyad Hallt Cymreig ac Eirin Damson wedi'u piclo wy organig wedi?i ferwi
Crempog Cocos
Article title

QVC yn cynnig Blas ar Gymru i wylwyr cyn Sioe Frenhinol Cymru

Full article


Bydd cynhyrchwyr bwyd o Gymru yn arddangos eu cynnyrch i wylwyr ledled Prydain pan fydd sianel siopa deledu QVC yn dangos rhaglen arbennig Blas ar Gymru i gyd-fynd â Sioe Frenhinol Cymru.

Bydd cynnyrch gan bum cwmni o Gymru - Clam’s Hand Made Cakes, Harvies Pies, Stad Rhug, Cwmni Caws Eryri a Welsh Farm Organics - yn cael eu dangos yn y sesiwn fyw awr o hyd am 12.00 ddydd Sul, 22 Gorffennaf.

Cyflwynir y rhaglen gan Jullian Ballantyne o QVC ac yn ymddangos gydag ef fydd Angela Gray, sy’n ymgynghori, ysgrifennu a darlledu am fwyd. Fe’i hamserwyd i ddigwydd ar ddechrau’r digwyddiad amaethyddol pedwar diwrnod blynyddol, un o’r mwyaf yn Ewrop.

Yn ymddangos am y tro cyntaf ar Sioe Gwir Flas Cymru fydd fferm organig wobrwyol Stad Rhug o Gorwen. Bydd Cwmni Caws Eryri yn lansio tri chynnyrch newydd ar y sioe; Amber Mist, Pickle Power a Ginger Spice.

Hon fydd y drydedd sioe Gwir Flas Cymru i QVC ei darlledu.

Dywedodd Norma Barry, Cyfarwyddwr Is-adran Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru “Drwy QVC, mae cynhyrchwyr Cymru unwaith eto yn cael cyfle i gyrraedd hyd yn oed fwy o ddefnyddwyr, a thrwy wneud hynny yn helpu i hyrwyddo diwydiant bwyd a diod Cymru yn ei gyfanrwydd.

“Mae siopa bwyd yn un o’r meysydd sy’n tyfu gyflymaf ar QVC, ac mae sioeau blaenorol Gwir Flas Cymru wedi ennyn llawer iawn o ddiddordeb ac wedi galluogi rhai o gynhyrchwyr mwyaf adnabyddus Cymru i gyflwyno eu cynnyrch i gynulleidfa newydd.”

MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk

Manylion Teledu
Sky Digital Sianel 630
Freeview - Sianel 16
Virgin TV - Sianell 740
www.qvcuk.com

NODIADAU I’R GOLYGYDD

I gael gwybodaeth bellach am QVC cysylltwch â:
Jennifer Bramley
Ffôn: 0207 705 5600
E-bost: jennifer_bramley@QVC.com

CYNNYRCH A DDANGOSIR

Stad Rhug :Blwch Barbiciw Organig  (Eitem rhif: 827150)
Yn cynnwys: 4 dogn o olwyth munud eidion, 4 chop cig oen, 2 olwyth coes cig oen, 2 chop porc, 2 kebab cig oen, 2 kebab porc.

Welsh Farm Organics: Blwch Byrgyr (Eitem rhif: 826077)
Blwch yn cynnwys: 20 x 100g Byrgyr Cieg Oen Organig a Rhosmari

Welsh Farm Organics: Blwch Byrgyr (Eitem rhif: 826549)
Blwch yn cynnwys 20x100g Byrgyr Cig Eidion Gwartheg Duon a Nionyn

Harvies Pies: 10 x 200g  Pastai Stęc Organig Sawrus (Eitem rhif: 826081)
Dewis o Stęc Wellington, Stęc a Chwrw, Stęc Marchruddygl a Mwstard Graen Cyflawn, Stęc Brandi a Phupur Du wedi Cracio a Stęc ac Aren.

Harvies Pies: 10 x 160g Pastai Ffrwythau (Eitem rhif: 826510)
 2 x Gellyg a Sinsir, 2 x Rhiwbob a Chwstard, 2 x Afal Bramley, 2 x Afal a Chyrens Duon a 2 x Mefus a Siampaen.

Caws Eryri: 6 x 200g Cawsiau Gwobrwyol o Gymru (Eitem rhif: 827152)
Black Bomber, Red Devil, Green Thunder, Amber Mist, Ginger Spice a Pickle Power.

Clams Hand Made Cakes: Detholiad o Deisennau 1 (Eitem rhif: 827110)
Teisen 1kg ceuled lemwn (wedi’i rhannu’n dair, ceuled lemon ar yr haen isaf, hufen menyn ar yr haen uchaf gyda siwgr eisin arni)
Teisen sbwng Victoria 1kg  (wedi’i rhannu yn dair, jam mafon cochion ar yr haen isaf, hufen menyn ar yr haen uchaf gydag eisin siwgr)
Teisen Cyffug Siocled (wedi’i rhannu drwy’r canol a’i llenwi gyda hufen menyn siocled a chyffug ar y top)

Clams Hand Made Cakes: Detholiad o Deisennau 2 (Eitem rhif: 827111)
Teisen 1kg oren (wedi’i rhannu’n dair, ceuled oren ar yr haen isaf, hufen menyn ar yr haen uchaf gyda siwgr eisin)
Teisen 1kg Hadau Caraway a Hadau Popi (Teisen s7bwng ysgafn, wedi’i chymysgu gyda cheuled oren, hadau caraway a hadau popi)
Teisen 500g Moron ac Oren (Teisen foron draddodiadol wedi’i gwneud gyda moron ffres gyda eisin oren)

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 18 July 2007