Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Crempog Cocos caws wedi?i ffrïo?n ddwfn gydag eirin
Cebabau oen Cymreig
Article title

Llwyddiant Ysgubol Cwmniau Cymru yng Ngwobrau Great Taste 2007

Full article

Bu cynhyrchwyr bwyd o Gymru yn llwyddiannus iawn yng ngwobrau Great Taste, un o brif gystadlaethau bwyd Prydain.

Enillodd 33 o gynhyrchwyr diod o Gymru - o gymharu â 16 y flwyddyn flaenorol - y nifer ryfeddol o 50 gwobr aur rhyngddynt.

Bellach yn eu pedwaredd flwyddyn ar ddeg, caiff gwobrau’r Great Taste, a drefnir gan The Guild of Fine Food Retailers eu hystyried fel gwobrau ‘Oscar’ y sector bwyd da.

Eleni denwyd tua 4500 o gynigion mewn 34 categori o Brydain ac Iwerddon.

Cynhaliwyd y cyfnod beirniadu dechreuol ym mis Mai gyda chynnyrch ar y rhestr fer wedyn yn cael eu hargymell ar gyfer y cylch beirniadu nesaf, a gynhelir ym mhencadlys y Guild yn Wincanton. Mae’r cynnyrch llwyddiannus a ystyrir eu bod o safon dwy neu dair seren yn wynebu cylch beirniadu terfynol yn Llundain.

Caiff y cynnyrch gwobrwyol eu datgelu yn arddangosfa gwobrau’r Gwir Flas a gynhelir yn y London Speciality and Fine Food Fair ar 2-4 Medi.

Mae’r broses feirniadu drwyadl yn cynnwys dros 200 o arbenigwyr o fyd bwyd a diod da gyda cheisiadau’n cael eu profi ar sail arogl, ansawdd a blas.

Bu Cymru yn neilltuol o lwyddiannus yn yr adrannau cig a chynnyrch llaeth. Enillodd cwmnïau o Gymru ddeg gwobr aur am gynnyrch cig yn cynnwys London House Stores o Wynedd; Langfords Welsh Sausage Company, Gwynedd; Edwards o Gonwy; House of Rhug, Sir Ddinbych; Parc Glasfryn, Gwynedd; Trealy Farm Charcuterie,  Sir Fynwy; a’r Black Mountains Smokery, Powys.

Enillodd Cymru wyth gwobr aur yn y categori caws a chynnyrch llaeth
gyda Llaeth y Llan, Sir Ddinbych; Trioni Cyf, Sir Benfro; Rachel’s Organic Dairy, Ceredigion; Hufenfa De Arfon, Gwynedd; Caws Ffermdy Teifi, Ceredigion; Dairy Farmers of Britain, Sir Ddinbych; a’r First Milk Cheese Company, Sir Benfro yn llwyddiannus.

Dangosodd Cymru ei sgil yn gwneud pethau melysach hefyd, gan ennill saith gwobr aur yn y categori jams a chadwolion gyda Welsh Lady Preserves o Bwllheli; Home Made Country Preserves a Miranda’s Preserves y ddau o Sir Benfro yn ennill aur bob un.

Enillwyd chwe gwobr aur yn yr adran teisennau, bisgedi a snaciau, gyda Maureen’s Cakes o Sir Gaerfyrddin, Welsh Cottage Cakes o Sir Gaerfyrddin; Clams Hand Made Cakes o’r Fenni a Siwgr a Sbeis o Gonwy oll yn derbyn gwobrau aur.

Dywedodd John Farrand, Cyfarwyddwr TheGuild of Fine Food :

“Mae gwobrau’r Great Taste yn parhau i gydnabod cynhyrchwyr sydd ag awch am fwyd, yn cefnogi eu heconomi leol ac yn annog diwylliant bwyd mwy cynaliadwy yn amgylcheddol. Mae’n wych gweld y nodweddion hyn yn cael eu profi ymhellach yng Nghymru eleni, gyda’r cynnydd yn nifer yr enillwyr.

Dywedodd Norma Barry, Cyfarwyddwr Adran Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru:

“Unwaith eto mae cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru wedi profi eu bod ymysg y gorau yn y byd wrth gynhyrchu bwyd da.

“Mae cydnabyddiaeth o’r fath yn sicr o hybu enw da Cymru fel gwir gartref y bwyd arbenigol gorau.”

CYSWLLT: Leigh Roberts (01656) 784377/07739 511466

Leigh Roberts
Coleman Roberts Communications
leigh@colemanroberts.co.uk
www.colemanroberts.co.uk
(01656) 788336/(07739) 511466

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 25 July 2007