Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Crempog Cocos Caws Pob
Caws Hufenfa De Arfon - Hen Sir
Article title

Gwyl Gaws Brydeinig Yn Canfod Cartref Newydd Yng Nghaerdydd

Full article

Bydd llygaid y byd caws ar Gaerdydd fis nesaf wrth i’r brifddinas groesawu’r Great British Cheese Festival am y tro cyntaf (Medi 27-28).
Cynhelir yr ?yl, sydd bellach yn ei nawfed flwyddyn yng Nghastell Caerdydd.
Mae’r digwyddiad a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn denu arddangoswyr ac ymwelwyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig, ac mae’n nodi dechrau Wythnos Caws Prydeinig (27 Medi - 5 Hydref).
Yn y gorffennol cynhaliwyd yr ?yl mewn gwahanol rannau o dde Lloegr yn cynnwys canol tref Cheltenham a Phalas Blenheim.
Yn awr Castell Caerdydd fydd y lleoliad ar gyfer y dyfodol, gan ychwanegu ei swyn ei hunan i gymeriad unigryw digwyddiad sy’n ganolbwynt y calendr ar gyfer gwneuthurwyr caws, prynwyr a phobl hoff o fwyd o bob rhan o’r byd.
Daw’r W?l flynyddol â 100 o wneuthurwyr caws gorau’r Deyrnas Unedig ynghyd ac mae’n rhoi cyfle i ymwelwyr brofi dros 500 o gawsiau Prydeinig, llawer ohonynt wedi eu cynhyrchu yng Nghymru yn cynnwys enillwyr Gwobrau Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru.
Ymysg y gwneuthurwyr caws fydd Alex James, y colofnydd papur newydd a chyn chwaraewr bas y gr?p Blur un o hogiau drwg y cyfnod Britpop sydd bellach yn wneuthurydd caws arbenigol yn y Cotswolds. Yn bresennol hefyd fydd Juliet Harbutt, a sefydlodd yr ?yl yn 2000 i godi proffil caws o Brydain.

Mae Juliet, sy’n hanu o Seland Newydd, yn arbenigydd ar gaws ac yn gadeirydd y Gwobrau Caws Prydeinig, ac mae bellach yn ymgynghorydd i’r digwyddiad yng Nghaerdydd.
Dywedodd, “Roeddwn eisiau camu’n ôl o redeg y sioe ac roeddwn wrth fy modd fod Cyngor Caerdydd wedi sylweddoli apêl a photensial yr ?yl a’i gwahodd i’w dinas hardd a lleoliad dramatig y castell yng nghanol y ddinas, lle mae gan y digwyddiad y potensial i ehangu.
“Gwn y bydd pawb sy’n cymryd rhan o’r arddangoswyr i’n gwneuthurwyr caws wrth eu bodd yn y lleoliad newydd a gyda’r croeso cynnes Cymreig, ac yn teimlo’n gartrefol iawn yma. Hefyd, bydd Stadiwm y Mileniwm yn lleoliad gwych ar gyfer y cinio Gwobrwyo”.
Mae’r ?yl ar agor i’r cyhoedd ar y dydd Sadwrn (27 Medi) a dydd Sul (28 Medi), a’r dydd Gwener blaenorol bydd prynwyr yn dod i Gaerdydd ar gyfer diwrnod masnach, a chynhelir Cinio Gwobrwyo Caws Prydeinig yn Stadiwm y Mileniwm yr un noswaith.
Prif ddigwyddiad yr ?yl fydd y Farchnad Gaws fwyaf ym Mhrydain lle bydd 500 o gawsiau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ar gael i’w blasu a’u prynu. Gall ymwelwyr hefyd fwynhau amrywiaeth rhyfeddol o fwydydd a diodydd yn y marchnadoedd eraill ar y safle.
Bydd un atyniad yn arbennig, marchnad Gwir Flas Cymru, yn cynnwys amrywiaeth eang o gwmnïau bwyd a diod o bob rhan o Gymru yn rhoi blas i ymwelwyr ar y cynnyrch ansawdd uchel sydd ar gael yng Nghymru.
Mae’r atyniadau yn yr ?yl yn cynnwys:
? Marchnad Gaws Fwyaf Prydain - dros 500 o gawsiau i’w profi a’u prynu
? Gwir Flas Cymru - detholiad o gynnyrch gwobrwyol o Gymru
? Marchnad Goreuon Prydain - amrywiaeth eang o fwydydd a diodydd crefftus ac anarferol
? Hanfodion Prin - cynhwysion arbenigol na fedrir eu cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig
? The Cardiff Arms - gyda dros 35 o fathau cwrw, gwin, seidr a pherai o Brydain
? Dosbarthiadau meistr ac arddangosiadau - bydd rhaglen fywiog ar hyd y penwythnos yn darparu ar gyfer pawb o newydd-ddyfodiaid i arbenigwyr
? Taflu Caws, Ceilys Caws a Cherddoriaeth Fyw

Mae manylion ar y Great British Cheese Festival ar gael yn www.thecheeseweb.com

Swyddfa docynnau Great British Cheese Festival ffôn: 029 2087 8438

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 4 August 2008