Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
wy organig wedi?i ferwi Ffagots gyda stwnsh pys a mint
Cig Hwyad Hallt Cymreig ac Eirin Damson wedi'u piclo
Article title

Cwmni Pobi O Gymru Yn Sicrhau Cytundeb I Werthu Yn Sbaen

Full article

Bydd pasteiod, pastenni a chynnyrch sawrus o Abertawe ar gael ar silffoedd archfarchnadoedd yn Sbaen yn dilyn cytundeb rhwng Lewis Pies Cyf, pobwyr gwobrwyol o Gymru, a Carrefour, un o brif gadwyni archfarchnad Ewrop.

Sicrhawyd y cytundeb ar ôl i Food from Britain ym Madrid gysylltu â chwmni, a phresenoldeb dilynol y cwmni yn arddangosfa fwyd a diod Alimentaria International ym Marcelona ym mis Mawrth 2008.

Roedd Lewis Pies ymysg gr?p o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru a arddangosodd yn y digwyddiad dan fantell Busnes Rhyngwladol Cymru a Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Carrefour wedi archebu naw cynnyrch ar gyfer ei amrediad ‘gorffen pobi’ yn cynnwys rholiau selsig, ogggies cig oen (pasten cig oen a llysiau) a phastenni Cernyweg.

Dywedodd Pat Lewis, Ysgrifennydd Cwmni Lewis, “Rydym yn hynod falch y bydd ein cynnyrch ar werth yn Carrefour. Rydym eisoes yn allforio i gwsmeriaid yn ne Sbaen a Lanzarote drwy Euro Foods, ond ar ôl bod yn Alimentaria rydym wedi ennill contractau yn Malaga, Majorca a Tenerife.
Rydym yn awr yn anelu i ddatblygu ein marchnad yn Ynysoedd Canaria a’r Ynysoedd Balearig”.

Ychwanegodd: “Rydym wrth ein bodd gyda’r ffordd yr agorodd Alimentaria gynifer o ddrysau i ni, rydym hyd yn oed wedi cael diddordeb o Peru. Ymddengys fod ein pasten Gernyweg yn debyg iawn i gynnyrch y maent yn eu mwynhau yn Ne America ond na allant ei atgynhyrchu.

“Cawsom gefnogaeth wych gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannol, gyda brandio a phecynnu, a gyda gweithdai, bu cymaint o wybodaeth. Rydym hefyd wedi gweithio gyda Chanolfan Bwyd Cymru yn Horeb.”

Sefydlwyd Lewis Pies yn Abertawe yn 1936 ac mae’n parhau’n fusnes teuluol.

Mae’r cwmni’n gweithredu erbyn hyn o uned bwrpasol ar Barc Busnes Gorllewin Abertawe - sy’n cael ei ymestyn ar hyn o bryd - ac yn cyflogi pobwyr, cyffeithyddion a chigyddion arbenigol , ac yn gwneud ei bestri a pharatoi ei gig ei hun, gan brynu llysiau ffres gan gyflenwr lleol.

“Medrwn ddatblygu cynnyrch yn gyflym iawn gan fod gennym ein pobwyr ein hunain. Maent yn gwybod sut i drin cynhwysion i gael cynnyrch pwrpasol,” meddai Pat Lewis.

Caiff cynnyrch Lewis eu gwerthu ym mhob rhan o Brydain yn ogystal ag yn Guernsey, Ynys Manaw ac Iwerddon, ac anfonwyd samplau i Dubai.
 
I gael gwybodaeth bellach am y cynnyrch cysyllter â:

Lewis Pies Cyfyngedig
Unedau 3-6 Heol Abergelly
Parc Busnes Gorllewin Abertawe
Fforestfach
Abertawe
SA5 4DY
Cyswllt: Pat Lewis
Ffôn: 01792 579908
Ffacs: 01792 584500
Gwefan: www.lewispies.co.uk

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 28 July 2008