Bydd cynhyrchwyr o Gymru yn dod â d?r i’r dannedd pan fyddant yn ymddangos o flaen y camera ar gyfer y sioe ‘Gwir Flas Cymru’ ddiweddaraf ar QVC, y sianel siopa deledu Brydeinig (24 Gorffennaf).
Darlledir y rhaglen - y seithfed yn y gyfres o sioeau ‘Gwir Flas Cymru’ i gydfynd â diwrnod olaf Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru (21-24 Gorffennaf).
Bydd pedwar cynhyrchydd yn cymryd rhan yn y rhaglen - Welsh Farm Organics, Harvies Pies, Cheeses From Wales, a Clams Cakes - ac yn siarad am eu cynnyrch gyda Debbie Greenwood, cyflwynydd QVC.
Hwn fydd yr eildro i’r cynhyrchwyr eu hunain fod ar y sgrin, ac aiff dau - Welsh Farm Organics a Harvies Pies - gam ymhellach drwy goginio eu cynnyrch ar y rhaglen fyw gerbron cynulleidfa bosibl a fedrai fod yn ddigon niferus i lenwi Stadiwm y Mileniwm.
Ers mis Tachwedd 2006 darlledwyd chwe rhaglen ‘Gwir Flas Cymru’ yn fyw ar y sianel a’u hamseru i gyd-fynd â digwyddiadau yn y calendr coginiol yng Nghymru - Gwobrau Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru (Tachwedd), Dydd G?yl Dewi (Mawrth) a Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru (Gorffennaf).
Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a QVC, ac mae wedi galluogi rhai o gynhyrchwyr mwyaf adnabyddus Cymru i gyflwyno eu cynnyrch i gynulleidfa newydd.
Darlledir sioe ‘Gwir Flas Cymru’ ar QVC ar 24 Gorffennaf am 2pm.
Manylion Sianelau
Sky Digital - Sianel 630 (* O 21 Gorffennaf 2008, bydd sianel Sky ar 640)
Freeview - Sianel 16
Virgin TV - Sianel 740
Freesat - Sianel 800
0800 50 40 30
www.qvcuk.com
I gael mwy o wybodaeth am QVC cysyllter ag:
Elinor Lloyd
Ffôn: 0207 705 5565
E-bost: elinor_lloyd@QVC.com
CYNNYRCH A DDANGOSIR
Harvies Pies (Eitem rhif: 827979)
Cymysgedd o basteiod melys a sawrus: 1x200g Stêc a Chwrw, 1x200g Cig Oen Mintys a Phys, 1x200g Cyw Iâr Gwin Gwyn a Taragon, 1x180g Tutti Fruitti, 1x180g Riwbob a Chwstard.
Harvies Pies (Eitem rhif: 828569)
Pac picnic: 4x 250g Ogi Cig Oen (pastenni gyda darnau o gig oen Cymreig a llysiau gwraidd, 2x 180g Rhôl Selsig Porc ac Afal (gwneir gyda phorc Gloucester Old Spot ac afalau Bramley), 2x180g Rhôl Selsig Traddodiadol (gwneir gyda phorc buarth Gloucester Old Spot), 4 x pastai borc olwyn Tractor (gwneir gyda phorc buarth Gloucester Old Spot).
Medrir rhewi’r holl gynnyrch am hyd at 4 mis. Dosberthir wedi rhewi.
Clams Cakes (Eitem rhif: 828570)
1 pecyn Brownis (4 mewn pecyn), 1 pecyn fflapjac Llugaeron (4 mewn pecyn), 3x teisen gwpan ludiog almon, 3x teisen gwpan sinsir a had pwmpen
Welsh Farm Organics (Eitem rhif: 828345)
20x 100g blwch byrgyr stêc eidion. Dosberthir wedi rhewi.
Harvies Pies (Eitem rhif: 826081)
10x 200g Pastai Sawrus; 2x Stêc, Marchruddygl a Mwstard Cyflawn, 2x Stêc Brandi a Phupur Du Cracedig, 2x Stêc ac Aren, 2x Stêc a Chwrw, 2x Stêc Wellington.
Harvies Pies (Eitem rhif: 826510)
10 x 160g Detholiad Pasteiod Ffrwythau Amrywiol Melys,; 2x Pastai Ffrwythau Riwbob a Chwstard; 2x Pastai Ffrwythau Gellyg a Sinsir, 2x Pastai Ffrwythau Afal Bramley; 2x Afal a Chyrens Duon, 2x Tarten Mefus a Champagne.
Cheeses from Wales (Eitem rhif 828101)
5 Blwch Cawsiau Cymreig Gwobrwyol gyda bwrdd: 1x 250g (isafswm pwysau) Perl Wen,1x 400g (isafswm) Trwcl Perl Las,1x 350g (isafswm) Draig Caerffili (cwyr dau liw),1x 400g (isafswm) Cerwyn Mwg,1x 400g (isafswm) Caws y Graig,1x mat caws glaswellt môr.
Welsh Farm Organics (Eitem rhif: 827468)
Cig Oen Organig Cymysg: 1 x 1kg ysgwydd cig oen, 2x stêc coes cig oen, 1x 500g briwgig oen a 4x golwyth cig oen.
Welsh Farm Organics (Eitem rhif: 827971)
Blwch Byrgyr: 10x 100g cig oen a mintys, & 10x 100g byrgyr stêc eidion
Welsh Farm Organics (Eitem rhif 827972)
8x 100g Stêc Brechdan, 2x Stêc ffolen, 2xStêc Ffolen Uchaf, 2x Stêc Coes Cig Oen, 2x Stêc Coes Porc.