Mae’n amser prysur i gwmni seidr Cymreig Gwynt y Ddraig gyda lansiad perai newydd (seidr gellyg) a thri seidr newydd, ynghyd â newidiadau i’r bwrdd wrth i’r cwmni fynd drwy gyfnod o ehangu cyflym.
Lansiwyd y cynnyrch newydd ddoe (dydd Mawrth) gan Elin Jones, Gweinidog Materion Gwledig yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd (21 - 24 Gorffennaf).
Dan yr enw Perry Vale, dywedir fod gan y perai newydd (sudd gellyg wedi’i eplesu) flas ffres a digonedd o arogl gellyg, ac fe’i gwneir o ellyg newydd eu gwasgu. Gwerthir y perai mewn poteli 300ml ac mae’r cwmni’n gobeithio y bydd y maint llai a’r pecyn yn apelio’n neilltuol i fenywod.
Mae perai drafft Gwynt y Ddraig ar gael yn storau Tesco yng Nghymru ac ymddengys mai ef yw blas y tymor gan ei fod newydd ennill gwobr Perai Gorau Cymru ym Mhencampwriaeth Perai a Seidr Cymru.
Mae dau seidr un afal, Dabinett a Yarlington Mill, a hefyd Vintage ’06 sydd wedi’i gyfuno o gynaeaf afalau 2006, yn ymuno â rhestr seidrau’r cwmni.
Cafodd brandio a marchnata cynnyrch diweddaraf Gwynt y Ddraig, sydd hefyd wedi ennill gwobr Gwir Flas, ei helpu gan grant Datblygu Bwyd Amaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, sydd hefyd wedi helpu’r cwmni i brynu ei wasg seidr drwy grant Prosesu a Marchnata.
Gwynt y Ddraig bellach yw cynhyrchydd seidr mwyaf Cymru a gwelodd gynnydd o 196% mewn gwerthiant y llynedd, ac mae wedi penodi dau gyfarwyddwr newydd i’w fwrdd.
Mae Ian Evans, sydd â hanes hir yn y diwydiant diodydd ar ôl gweithio i Scottish & Newcastle, yn gyfarwyddwr datblygu gweithrediadau a chydymffurfiaeth yn William Grant & Sons ac yn ymuno â Gwynt y Ddraig fel cadeirydd y cwmni. Yn frodor o’r Rhondda, mae Mr Evans hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol Sefydliad Wisgi’r Alban, a bu’n flaenorol yn gyfarwyddwr anweithredol i Gwynt y Ddraig.
“Er i mi dreulio’r rhan fwyaf o fy ngyrfa yn yr Alban, rwyf bob amser yn mwynhau dod gartref i Gymru i gefnogi’r tîm rygbi cenedlaethol ac wrth gwrs flasu’r seidrau gwych o Gymru”, meddai.
Hefyd yn ymuno ag ef ar fwrdd Gwynt y Ddraig fel Cyfarwyddwr Cyllid anweithredol mae Lyn Casling, sydd hefyd yn frodor o’r Rhondda. Yn gymrawd y Gymdeithas Cyfrifyddion Ardystiedig Siartredig ac yn gyn reolwr gyfarwyddwr Hodge Life Assurance Company Cyf, mae Mr Casling yn bennaeth datblygu cynnyrch Living Time Cyf.
“Rydym wedi profi yn y gorffennol ein bod yn gwneud seidrau a perai rhagorol a nawr gydas phrofiad Ian a Lyn ar y bwrdd, medrwn fynd â seidrau a pherai Gwynt y Ddraig i’r lefel nesaf”, meddai Andrew Gronow a Bill George, Cyfarwyddwyr Gwynt y Ddraig.
Ffurfiwyd Gwynt y Ddraig gan Bill George, sy’n ffermwr, a’i nai Andrew Gronow, a dechreuwyd cynhyrchu seidr yn Fferm Llest yn Llanilltud Faerdref ger Pontypridd yn hydref 2011.
O’r ychydig gannoedd cyntaf o alwyni, mae’r cynhyrchiant wedi codi bob blwyddyn yn bennaf yn defnyddio ffrwythau a dyfir yn Sir Fynwy yn ogystal â rhai o Swydd Henffordd a Gwlad yr Haf.
Mae’r cwmni’n cynhyrchu 20 math gwahanol o seidr drafft, chwe seidr potel ac un perai. Mae’r cwmni hefyd yn gwneud ‘Pyder’, a eplesir o afalau a gellyg.
Maent oll yn addas ar gyfer llysieuwyr a feganiaid, gan na ddefnyddir unrhyw gynnyrch yn hanu o anifeiliaid yn y broses. Caiff yr afalau eu melino a’u gwasgu ar y fferm a gadewir sudd yr afalau i eplesu ac aeddfedu mewn casgenni derw.
Ni chynhyrchir unrhyw wastraff o’r seidr a’r perai gan y caiff yr holl is-gynnyrch eu bwydo i fuchesi eidion Hereford a Belgian Blues y fferm.
Mewn cyfnod cymharol fyr, mae’r cwmni wedi ennill nifer fawr o wobrau gan Gymdeithas Perai a Pherai Cymru a’r Ymgyrch Cwrw Go Iawn (CAMRA), gyda’r seidr ffermdy traddodiadol yn ennilll medal Aur i’r cwmni yn 2004, y cynhyrchydd seidr cyntaf o Gymru i dderbyn y wobr.
Yn ychwanegol at wobr y perai ym Mhencampwriaeth Seidr a Pherai Genedlaethol Cymru, ennillodd Gwynt y Ddraig Ffermdy Melys deitl ‘Seidr Melys Gorau’ yng Ng?yl Seidr Caerfaddon. Enillodd y seidr newydd un math afalau Yarlington Mill y drydedd wobr am y botel seidr wedi’i chyflwyno orau yn y Pencampwriaeth Seidr Rhyngwladol yn Henffordd.
Mae seidr a pherai Gwynt y Ddraig ar gael mewn llawer o gadwynni tafarndai megis SA Brain Brewery a JD Wetherspoon, manwerthwyr lluosog yn cynnwys Asda, Tesco a Waitrose, yn ogystal ag ar-lein.
I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch cysyllter â:
Gwynt y Ddraig Cider
Fferm Llest
Llanilltud Faerdref
Pontypridd
Rhondda Cynon Taf
CF38 2PW
Cyswllt: Bill George
Ffôn/Ffacs: 01443 209852 / 07791 066240
E-bost: bill.george@gwyntcider.com
Cyswllt: Andy Gronow
Ffôn/Ffacs: 01443 209852 / 07791066257
E-bost: andy.gronow@gwyntcider.com
Gwefan: www.gwyntcider.com