Mae cynhyrchwyr bwyd a diod yn paratoi i groesi’r Iwerydd ar gyfer y 54fed Sioe Haf Bwyd Ffansi yn Efrog Newydd (29 Mehefin - Gorffennaf 1).
Mae sioe 2008, a gynhelir yng Nghanolfan Jacob K. Jacits, yn argoeli bod y fwyaf erioed gyda dros 140,000 o gynnyrch, 2,300 o arddangoswyr o 73 o wledydd a 52 pafiliwn rhyngwladol.
Mae Busnes Rhyngwladol Cymru ar ran Is-adran Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi trefnu i saith cwmni arddangos yno dan faner y Gwir Flas, gyda thri ohonynt yn arddangos yno am y tro cyntaf.
Un o’r rhai fydd yno am y tro cyntaf fydd The Organic Smokehouse, yr unig fygdy llwyr organig ym Mhrydain. Lansiodd y cwmni o Bowys ei becynnau newydd yn ddiweddar sy’n cynnwys lluniau o’i amgylchiadau naturiol megis dail derw a phren wedi’i lifio i gyfleu nodweddion naturiol ei gynnyrch mwg sy’n cynnwys eog, caws, menyn, halen, olew’r olewydd a Mouse eog.
Hefyd yno am y tro cyntaf fydd y melinwyr crefftus Matt ac Anne Scott o Bacheldre Watermill, fydd yn arddangos eu blawd organig. Dim ond offer traddodiadol a weithir gan dd?r a thrydan a’r grawn a’r hadau organig o’r radd flaenaf a ddefnyddir i gynhyrchu’r blawd, a gymeradwywyd gan Gymdeithas y Pridd. Dangosir wyth math o flawd yn cynnwys Blawd Cyfun Brag Cryf Mâl Mwg Derw, Blawd Brag 5 Hedyn, Gwyn Cryf Heb ei Gannu, 100% Cyflawn Cryf, Cyfun Brag Cryf, Gwyn Plaen, a Gwenith yr Almaen a Rhyg.
Y trydydd chwmni fydd yn y Sioe am y tro cyntaf fydd Collier's Powerful Welsh Cheddar, a farchnatir gan Fayrefield Foods Cyf. Mae blas hynod caws Collier’s a’i dreftadaeth anarferol y golygu iddo ennill dwy wobr yn Nantwich, un o sioeau caws pwysicaf y byd, ac ef bellach yw’r brand caws Cymreig mwyaf llwyddiannus ym Mhrydain.
Arddangosodd The Hurns Brewing Company, sy’n cynhyrchu cwrw Tomos Watkin, yn America am y tro cyntaf yn 2006. Yn dilyn taith fasnach i Efrog Newydd a drefnwyd gan Busnes Rhyngwladol Cymru, sicrhaodd y cwmni gytundeb gyda dosbarthydd St Killian i fewnforio a dosbarthu ei gwrw i 50 o daleithiau’r Unol Daleithiau. Bydd Hurns yn parhau ei ymgyrch ym marchnad America a bydd yn derbyn archebion ar gyfer St Killan yn y Sioe Fwyd Ffansi.
Bydd Halen Môn yn arddangos ei amrediad yn cynnwys yr halen môr seleri organig newydd a thiwbiau 10g newydd y cwmni o halen fanila, sbeis organig, mwg derw, pur a seleri organig sy’n berffaith ar gyfer picnic a basgedi rhodd. Lansiwyd halen môr mwg derw Halen Môn yn ddiweddar ar y fwydlen yn un o brif fwytai Efrog Newydd, Gordon Ramsay at The London. Mae’r halen yn un o’r cynhwysion mewn pwdin newydd a wneir gan y bwyty, sydd â dwy seren Michelin, ac mae ei gynnwys yn ganlyniad cinio a noddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Croeso Cymru a Welsh Rarebits yn y bwyty ym mis Chwefror fel rhan o Wythnos Cymru’r Unol Daleithiau ar gyfer cyfryngau Efrog Newydd.
Bydd Llanllyr Water Company, Enillydd Gwobr Menter y Frenhines, Enillydd Masnach Rhyngwladol 2008, ‘Allforiwr Diod y Flwyddyn’ ac ‘Allforiwr Cymru'r Flwyddyn’ yng Ngwobrau Allforio Food from Britain 2007, yn arddangos ei amrediad cyfan o dd?r llonydd a phefriog Llanllyr Source mewn poteli d?r 750ml a 330ml. Cafodd y cwmni, sydd hefyd wedi ennill Gwobr y Gwir Flas, hefyd ei farnu’r d?r Prydeinig gyda’r blas gorau gan Imbibe Magazine a bydd hefyd yn dangos ei ganiau 100% ailgylchadwy newydd o dd?r llonydd a phefriog. Mae gan y cwmni drwydded lawn i werthi yn Nhalaith Efrog Newydd a phob rhan o’r Unol Daleithiau.
Bydd The Patchwork Traditional Food Company, sy’n awr yn cynhyrchu ei pate yn America yn ogystal â Chymru yn dangos ei becynnau newydd sionc yn y Sioe. Caiff y pâté ei gynhyrchu Selinsgrove, Pennsylvania a chaiff ei werthu yn America yn bennaf mewn siopau bwyd arbenigol ac archfarchnadoedd annibynnol safon uchel megis Dean & DeLuca, Fairway, Amish Market a Graces Marketplace. Caiff chwe math o pâté eu harddangos yn Efrog Newydd: Brandi a Pherlysiau, Triple Sec ac Oren, Tequila a Llugaeron, Bourbon a Llus Mawr, Madarch a Garlleg a Pâté’r Ddraig Goch (Iau Carw gyda Chilli)
I gael gwybodaeth bellach am gwmnïau a chynnyrch cysylltwch â:
The Hurns Brewing Company
Ffordd y Brenin
Stad Ddiwydiannol Fforestfach
Abertawe
SA5 4DL
Cyswllt: Connie Parry
E-bost: beer@hurns.co.uk
Ffôn: 01792 560020
Gwefan: www.hurnsbeer.co.uk
Cwmni Halen Môn
Brynsiencyn
Llanfairpwllgwyngyll
Ynys Môn
LL61 6TQ
Cyswllt: Alison Lea-Wilson
Ffôn: 01248 430871
E-bost: alison@seasalt.co.uk
Gwefan: www.seasalt.co.uk
The Patchwork Traditional Food Company
Llys Parcwr,
Rhuthun
LL15 1NJ
Cyswllt: Marcus Carter
Ffôn: 01824 705832
E-bost: marcus@patchwork-pate.co.uk
Gwefan: www.patchwork-pate.com
Llanllyr Water Company
Talsarn
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 8QB
Cyswllt: Patrick Gee
Ffôn: 01570 470 788
E-bost: patrick@llanllyrwater.com
Gwefan: www.llanllyrwater.com
The Organic Smokehouse
Oak Meadow
Bacheldre
Yr Ystog
Trefaldwyn
Powys
SY15 6TE
Cyswllt: Michael Leviseur
Ffôn:01588 660206
E-bost: michael@organicsmokehouse.com
Gwefan: www.organicsmokehouse.com
Fayrefield Foods Cyf (Collier’s Powerful Welsh Cheddar)
Englesea House
Barthomley Road
Crewe
CW1 5UF
Cyswllt: Chris Swire
Ffôn: 01270 589311
E-bost: chriss@fayrefield.com
Gwefan: www.fayrefield.com
Bacheldre Watermill
Yr Ystog
Trefaldwyn
Powys
SY15 6TE
Cyswllt: Matt & Anne Scott
Ffôn: 01588 620489
E-bost: info@bacheldremill.co.uk
Gwefan:www.bacheldremill.co.uk