Mae cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn paratoi i groesi’r Iwerydd ar gyfer 53fed Sioe Bwyd Ffansi Haf yn Efrog Newydd (8-10 Gorffennaf).
Cynhelir Sioe 2007 yng Nghanolfan Jacob K. Jacits ac mae’n argoeli bod y fwyaf erioed gyda 140,000 o gynnyrch, 2,300 o arddangoswyr o 73 o wledydd a 52 o bafiliynau rhyngwladol.
Trefnwyd presenoldeb Cymru yno gan Busnes Rhyngwladol Cymru ar ran yr Isadran Bwyd a Datblygu Marchnad o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru, a bydd pum cwmni’n arddangos dan faner y Gwir Flas: The Hurns Brewing Company, Cwmni Halen Môn, The GoodCarb Food Company, The Patchwork Traditional Food Company, a Llanllyr Water Company.
Bydd Cwmni Halen Môn yn arddangos eu hamrediad o halen môr a phupur du yn ogystal â bara lawr. Bydd y cwmni hefyd yn arddangos ei gynnyrch mewn mannau gwerthu enwog yn Efrog Newydd, Chelsea Market Baskets a Fairways.
Bydd The GoodCarb Food Company yn canolbwyntio ar ei rawnfwyd brecwast Granola gwreiddiol a grawnfwyd brecwast Granola organig newydd, yn ogystal â’i dri snacfar seiliedig ar Granola - siocled Belgaidd, leim Siciliaidd a sinsir, a thriagl a chnau pecan. Mae’r cwmni o Lanelli yn gwneud cynnyrch bwyd ansawdd uchel yn defnyddio cynhwysion naturiol sy’n cael effaith fach iawn ar lefelau siwgr y gwaed. Mae’r holl gynnyrch yn GL isel 5.5, yn rhyddhau ynni yn araf, yn dda ar gyfer siwgr gwaed ac yn rhydd o wenith.
Bydd The Patchwork Traditional Food Company, cynhyrchydd pâtés, pasteiod, terinau a quiches a wneir â llaw, yn dangos ei amrediad o pâtés iau cyw iâr a gaiff hefyd yn awr eu cynhyrchu yn America. Caiff yr amrediad o chwe pâté iau cyw iâr cryf - Brandi a Pherlysiau, Triple Sec ac Oren, Tequila a Llugaeron, Bourbon a Mafon Gleision, Madarch a Garlleg - eu gwneud yn Pennsylvania a’u dosbarthu ledled yr Unol Daleithiau. Hefyd ar y fwydlen yn Efrog Newydd gan y cwmni o’r Rhuthun fydd Pâté’r Ddraig Goch a wneir gydag iau carw a chilli.
Bydd cwmni gwobrwyol Llanllyr Water Company, a lansiodd ei dd?r ffynnon naturiol pur SOURCE ym marchnad Canada yn ddiweddar, yn arddangos ei boteli 750ml a 330ml o dd?r llonydd a phefriog.
Bydd The Hurns Brewing Company o Abertawe yn mynd â’i Magic Lagyr newydd - y credir ei fod yr unig lager potel a wneir yng Nghymru - yn ogystal â phump o’i fathau cwrw potel a’i seidr Taffy Apples.
Bydd Croeso Cymru hefyd yn cymryd rhan yn y Sioe i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan dwristiaeth.
Gwybodaeth bellach: Sheila Coleman 01792 817532/07968 357474
I gael gwybodaeth bellach am y Sioe Fwyd Ffansi gweler www.specialityfood.com
Llanllyr Water Company
Talsarn
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 8QB
Ffôn: 00 44 (0)1570 470788
E-bost: patrick@llanllyrwater.com
Gwefan: www.llanllyrwater.com
Cyswllt: Patrick Gee
The Hurns Brewing Company
Uned 3, Parc Century,
Parc Menter Abertawe,
Abertawe
SA6 8RP
Ffôn: 0044 (0)1792 797300
E-bost: beer@hurns.co.uk
Gwefan: www.hurnsbeer.co.uk
Cyswllt: Connie Parry
Cwmni Halen Môn
Brynsiencyn
Llanfair PG
Ynys Môn
LL61 6TQ
Ffôn: 0044 (0)1248 430871
E-bost: enq@seasalt.co.uk
Gwefan: www.seasalt.co.uk
Cyswllt: Alison Lea-Wilson
The GoodCarb Food Company
Blwch SP 94
Llanelli
SA15 4ZW
Ffôn: 00 44 (0)1554 755009
E-bost: lizi@good-carb-food.co.uk
Gwefan: www.good-carb-food.co.uk
Cyswllt: Lizi Shaw
The Patchwork Traditional Food Company
Llys Parcwr,
Stad Ddiwydiannol Lon Parcwr,
Rhuthun,
LL15 1NJ
Ffôn: 04 44 (0)1824 705832
E-bost: marcus@patchwork-pate.co.uk
Gwefan:www.patchwork-pate.co.uk
Cyswllt: Marcus Carter
Croeso Cymru
Ffôn: 08708 300 306
E-bost: info@visitwales.co.uk
Gwefan: www.visitwales.co.uk