Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Wyau pob organic Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion
Pastai filo sbiboglys a chaws
Article title

Campus: Bwyd Arwyr Rygbi Cymru

Full article

Mae arwyr rygbi Cymru angen bwyd gorau Cymru i’w porthi i’w buddugoliaethau Camp Lawn ac nid yw’r fuddugoliaeth ddiweddar yn ddim gwahanol. Mae cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru wrth eu bodd gyda’r fuddugoliaeth rygbi ddiweddaraf.
 
Bwydwch eich hunan fel chwaraewyr rygbi’r bencampwriaeth gyda’r cynnyrch blasus newydd o Gymru. Mae’r cynhyrchwyr hyn wedi ennill gwobrau’r Gwir Flas, sy’n rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu’r sector bwyd a diod, a datblygu ymwybyddiaeth o frand bwyd Cymru ‘Cymru y Gwir Flas’. Mae Gwobrau’r Gwir Flas yn dod yn gynyddol boblogaidd bob blwyddyn ac fe’u hystyrir fel gwobrau ‘Oscar’ diwydiant bwyd Cymru.
 
NEWYDD Paté Cyw Iâr Cyw ac Ysgawen, The Patchwork Traditional Food Company
 
 
Delfrydol ar gyfer picnic haf neu snac ysgafn, mae’r paté newydd hwn yn fendigedig o ysgafn. Mae fodca gyda blas ysgawen yn rhoi blas amheuthun i’r paté sy’n dwyn i gof  ddyddiau hir dechrau’r haf.
 
Mae’r pate newydd hwn yn rhan o amrediad tymhorol pate The Patchwork Traditional Food Company a bydd ar gael ym mis Mai a mis Mehefin 2008.
 
Ar gael o: www.patchwork-pate.co.uk
RRP: 230g £6.50

Halen Seleri NEWYDD, Halen Môn
 
 

Mae Halen Môn wedi ychwanegu at eu hamrediad o halen gyda halen seleri blasus a wneir gyda hadau seleri organig. Wedi ennill ei blwyf ar gyfer sesnin ar gyfer cawliau, caserolau a haen trochi ar gyfer wyau soflieir, mae tîm Halen Môn hefyd yn ei argymell ar lysiau gwraidd wedi’u rhostio neu lysiau pureé a salad.
 
Bydd halen seleri Halen Môn ar gael o ddechrau mis Ebrill.
 
Ar gael o: www.seasalt.co.uk
RRP: £3.50 am 100g, £1.20 am 10g
 

Grawnfwydydd Granola, The Oats So Good Company
 

 
Mae grawnfwydydd Granola seiliedig ar geirch yn ddelfrydol ar gyfer brecwast llawn egni. Deuant mewn dau flas: Granola Gwreiddiol a Granola Llugaeron a Bricyll.
 
Mae gan y ddau fath fuddion iechyd ychwanegol. Maent yn uchel mewn ffibr, nid oes ganddynt unrhyw halen neu siwgr ychwanegol a maent yn rhydd o fraster traws. Maent yn llawn hadau blodau haul, hadau pwmpen, hadau sesame a chnau cymysg mân, ac yn berffaith ar gyfer rhai sy’n dilyn diet isel mewn GI.
 
Mae tîm Oats So Good Company yn awgrymu eich bod yn eu bwyta gyda llaeth neu iogwrt fel grawnfwyd brecwast neu dros hufen iâ ar gyfer ychwanegyn iach.

Ar gael yn Asda
RRP: Granola Gwreiddiol, £2.58 am 500g, Granola Llugaeron a Bricyll, £2.58 am 500g

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 28 March 2008