Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
wy organig wedi?i ferwi Pastai filo sbiboglys a chaws
Bara lawr ffres gyda lemon
Article title

Gwyl Gourmet Bwyd A Diod Canolbarth Cymru

Full article
Mae tymor gwyliau bwyd Cymru yn cychwyn yn Llanwrtyd y mis nesaf pan groesewir tua 50 o arddangoswyr y cynnyrch bwyd, diod a chrefftau gorau i’r dref.
 
Cynhelir G?yl Gourmet Bwyd a Diod Canolbarth Cymru ddydd Sadwrn 5 Ebrill rhwng 10am a 5pm yn Neuadd a Chaeau Bromsgrove, Llanwrtyd.
 
Yn ogystal â bwyd a diod o’r safon orau, bydd stondinau crefft, arddangosiadau coginio, adloniant i oedolion a phlant a cherddoriaeth yn cynnwys côr meibion.
 
Bydd yr ?yl eleni yn cynnal rownd ranbarthol Cymru cystadleuaeth Bencampwriaeth Selsig Genedlaethol Prydain - mae gwybodaeth bellach am hyn yn cynnwys sut i gymryd rhan ar gael drwy gysylltu â Keith Brown o Gymdeithas Bridwyr Moch Cymru a Siroedd y Gororau ar  01982 552100.
 
Bydd Roy Noble, cyflwynydd ar BBC Radio Wales a Derek Brockway, dyn tywydd BBC Cymru yn bresennol.
 
Dywedir mai Llanwrtyd, sydd rhwng Llanfair ym Muallt a Llanymddyfri ar yr A483, yw’r dref leiaf ym Mhrydain ac mae’n ymfalchïo ar roi croeso Cymreig i ymwelwyr. Mae bwytai, gwestai a thafarndai yn ymuno â hwyl yr ?yl, gan ddarparu detholiad eang o gwrw go iawn a gwirodydd safon uchel a dewis o fwydydd ar gyfer pob dant a phoced.
 
Bydd arddangosfa “Bywyd drwy bum degawd” am yr ardal yn cydredeg â’r ?yl Bwyd.
 
 
I gael gwybodaeth bellach, yn cynnwys ymholiadau am arddangos, cysyllter â Peter R James MBE, Cadeirydd yr ?yl, ar 01591 610264 neu drwy e-bost at foodfoodfood@lycos.com.
Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 26 March 2008