Heavenly, y gwneuthurwyr hufen iâ arbenigol o Landeilo, sy’n gwneud yr hufen iâ cyntaf i’w wneud o fananas Cymreig.
Caiff y ffrwyth - a gaiff fel arfer ei hedfan hanner ffordd rownd y byd - ei dyfu yng Ngherddi Aberglasney ger Llandeilo.
Plannodd gerddi hanesyddol Aberglasney goeden bananas yn haf 2005 yn ei Ninffariwm - math unigryw o ardd drofannol a adeiladwyd i olion rhan o’r hen blasty ac a orchuddiwyd gyda tho gwydr.
Mae’r Ninffariwm, syniad Graham Rankin, cyfarwyddwr Aberglasney, hefyd yn gartref i fagnolias, tegeirianau a choed palmwydd egsotig yn ei hinsawdd arbennig.
Dywedodd Mr Rankin, “Fedrwn ni ddim meddwl am well defnydd ar gyfer y bananas na’u rhoi i Heavenly i wneud peth o’u hufen iâ bendigedig.
“Rwy’n credu ei bod yn wych medru cefnogi busnesau lleol, a chael hufen iâ gydag enw Aberglasney arno.
“Er y cyfeirir atynt yn aml fel ‘coed’ banana, mewn gwirionedd ‘planhigion’ llysieuol ydynt sy’n marw ar ôl bwrw ffrwyth ac yna’n datblygu ail goesyn ger yr un cyntaf ar gyfer y cnwd cyntaf.
“Maent yn llawer llai o ran maint na’r bananas a werthir mewn siopau, gan fod ond tua pum modfedd o hyd. Ond mae eu blas yn llawer mwy dwfn.
“Cawsom gnwd o 25 banana a aeddfedodd ym mis Ebrill”.
Daw’r enw Ninffariwm o Erddi Ninfa ger Rhufain, lle cafwyd yr ysbrydoliaeth am ddyluniad gardd Ninffariwm.
Nid dyma’r tro cyntaf i Aberglasney a Heavenly uno. Y llynedd gwnaeth Heavenly ddau flas newydd o hufen iâ, yn gyntaf o lafant ac wedyn o orennau a dyfwyd yng ngerddi hynafol Aberglasney.
Dywed Paul a Tracey Kindred, perchnogion Heavenly, fod eu Hufen Iâ Orennau Clwysty Aberglasney a Hufen Iâ Lafant Organig Aberglasney yn boblogaidd ac maent hefyd yn gobeithio y bydd Hufen Iâ Banana Aberglasney hefyd yn ffefryn mawr.
Dywedodd Mrs Kindred, “Rydym yn ymroddedig i ddefnyddio cynnyrch lleol - mae ein holl laeth a hufen yn organig ac yn dod o ffynonellau lleol.
“Rydym yn falch iawn i fedru gweithio mewn partneriaeth agos gydag Aberglasney ac i gael y cyfle i dyfu bananas a dyfir yn lleol mewn ffordd mor arbennig yn ein hufen iâ.
“Gobeithiwn y gall Aberglasney barhau i gynhyrchu bananas i ni eu defnyddio yn y dyfodol - mae’n llawer gwell i’r amgylchedd i ddefnyddio ffrwythau a dyfir yn lleol na’i hedfan filoedd o filltiroedd o amgylch y byd.
“Bydd yr hufen iâ ar gael yn Siop Hufen Iâ Heavenly yn Llandeilo, ond mae’r cyflenwad yn gyfyngedig felly dylech fynd yno’n sydyn os hoffech flasu hufen iâ bananas Cymreig go iawn.”
Ers agor ym mis Mai 2005, mae Heavenly - sydd hefyd yn cynnig dewis eang o deisennau, melysion a siocledi blasus i’w gwsmeriaid - wedi ennill bri mawr am ei hufen ia crefftus. Mae bellach yn cynhyrchu 200 o flasau, yn cynnwys tiramisu gyda marsala a sorbet pimms a hufen iâ basil a leim.
Mae ganddynt eu labordy hufen iâ eu hunain lle maent yn addo y medrant wneud hufen iâ o unrhyw flas gyda 48 awr o rybudd. Enillodd y cwmni Wobr Aur Gwir Flas Cymru am “Gweithgynhyrchydd Llaethdy Bach Gorau” yn 2006.
Cafodd yr holl gnwd o 10 kilo orennau a gynhyrchwyd yn Aberglasney eu paratoi ar gyfer hufen iâ bron cyn gynted ag y cawsant eu casglu'r llynedd.
Mae’r orennau yn tyfu o fewn yr Ardd Clwysty Elizabethaidd yn Aberglasney. Mae’r waliau carreg uchel yn rhoi cysgod i’r planhigion rhag y gwynt a hefyd yn helpu i gadw gwres dros nos. Caiff y coed orennau eu cadw mewn t? gwydr heb ei wresogi yn ystod tywydd oer y gaeaf.
A chaiff lafant yn awr ei dyfu yn Aberglasney yn arbennig ar gyfer cynhyrchu hufen iâ yn Heavenly.
Mae Heavenly eisoes yn cynllunio ei flasau hufen iâ nesaf - Mefus a wnaed gyda mefus ffres a dyfir yn Nhalyllychau ger Llandeilo a Mefus Rhesog - a wneir o jam a wneir yn lleol gyda mefus Talyllychau.
Manylion pellach: Leigh Roberts 01656 788336
Heavenly
T? Llundain
Stryd Rhosmaen
Llandeilo
Sir Gaerfyrddin
SA19 6EN
Ffôn: 01558 822 800
Cyswllt: Tracey Kindred
www.heavenlychoc.co.uk
Leigh Roberts
Coleman Roberts Communications
leigh@colemanroberts.co.uk
www.colemanroberts.co.uk
(01656) 788336/(07739) 511466