Bydd cwmnïau bwyd o Gymru yn mynd i Olympia yn Llundain yr wythnos hon i arddangos eu cynnyrch yn y BBC Good Food Show (16 -18 Tachwedd).
Byddant yn arddangos dan faner Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei stondin arddangos newydd, ac yn cynnwys cynnyrch melys a sawrus.
Fe ddechreuodd cwmni Kid me Not drwy wneud cyffug, wedyn ddiodydd llyfn a chaws, yn awr mae’r cwmni melysfwydydd llaeth gafr wedi ehangu ei ddewis cynnyrch ymhellach drwy lansio amrediad o siocledi.
Bydd y busnes teuluol o Dalyllychau ger Llandeilo, sy’n defnyddio llaeth eu geifr eu hunain i wneud ei holl gynnyrch, yn arddangos eu siocled yn y sioe yn Llundain. Ar gael mewn bariau yn ogystal â siapiau Nadoligaidd, bydd yr amrediad yn cynnwys triwfflau champagne hufen gafr ffres mewn pryd ar gyfer y Nadolig.
Yn dangos ei amrediad o olew olewydd pur iawn o stad sengl fydd Ferranti sy’n cynhyrchu olew o’i berthi olewydd hynafol ei hunan yng Nghatalonia, Sbaen. Mae’r teulu Ferranti yn tyfu tri math o olewydd - Sevillenca, Morrut a Farga - ym mryniau Coll de L’Alba.
Hefyd yn y Sioe fydd cnau almon, a gaiff eu cynaeafu o 300 o goed almon sydd wedi’u plannu rhwng y perthi olewydd. Mae’r cwmni hefyd yn berchen ar sawl gwinllan yn y rhanbarth a byddant yn arddangos eu gwin yn y digwyddiad.
Bydd Welsh Farm Organics, siop fferm ar-lein wobrwyol o’r Canolbarth, yn arddangos dan faner y Gwir Flas a bydd QVC hefyd yn rhoi sylw iddo yn y digwyddiad.
Yn ogystal â’i amrediad cynnyrch - sy’n cynnwys ham, cig eidion, cig oen a phorc wedi eu haer-sychu, a gyda’r Nadolig ar ein gwarthaf, bydd y cwmni yn lansio ei ham newydd Sir Drefaldwyn wedi’i aer-sychu.
Bydd nifer o gwmnïau o Gymru hefyd yn arddangos ac yn cymryd rhan mewn ffilmio ar gyfer sioe ‘Gwir Flas Cymru’ a ddangosir ar QVC, y sianel siopa deledu.
Ar ddiwrnod agoriadol y sioe bydd Dale Franklin, cyflwynydd QVC, yn cwrdd gyda chynhyrchwyr a chwsmeriaid, a chaiff pytiau ffilm o hynny eu cynnwys yn sioe arbennig ‘Gwir Flas Cymru’ a ddangosir ar QVC am 5pm ddydd Llun, 19 Tachwedd.
Mae’r cwmnïau fydd yn cymryd rhan yn y ffilm yn cynnwys: Stad Rhug, Siwgr a Sbeis, Cheeses From Wales, Castle Chocolates, Clam’s Cakes, Harvies Pies, The Patchwork Traditional Food Company, a Welsh Farm Organics.
CWMNÏAU’N ARDDANGOS DAN FANER Y GWIR FLAS
I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch cysylltwch â:
Ferranti
Clwb Golff St Mary
St Mary’s Hill
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5EA
Ffôn: 01656 865136
E-bost: admin@ferrantioliveoil.com
Gwefan:www.ferrantioliveoil.com
Cyswllt: Andrew Norris
Kid Me Not
Fferm Ffynnongrech
Talyllychau
Llandeilo
Sir Gaerfyrddin
SA19 7BZ
Ffôn: 01558 685935
E-bost: info@kidmenot.co.uk
Gwefan: www.kidmenot.co.uk
Cyswllt: Loraine Makowski-Heaton
Welsh Farm Organics
Tyn-y-fron
Pentre
Mochdre
Powys
SY16 4JW
Ffôn: 01686 627979
E-bost: sales@welshfarmorganics.co.uk
Gwefan: www.welshfarmorganics.co.uk
Cyswllt: Jonathan Rees
Arddangoswyr BBC Good Food Show (QVC)
Manylion cyswllt llawn y gwerthwyr o Gymru islaw:
Clam’s Hand Made Cakes
T? Lewis Parry
Uned 4 Parc Busnes Elvicta
Crughywel
Powys
NP8 1DF
Ffôn: 01873 812283
Ffacs: 01873 812259
E-bost: lewis@clamscakes.co.uk
Gwefan: www.clamscakes.co.uk
Cyswllt: Lewis Phillips
Welsh Farm Organics
Tyn-y-fron
Pentre
Mochdre
Powys
SY16 4JW
Ffôn: 01686 627979
E-bost: sales@welshfarmorganics.co.uk
Gwefan: www.welshfarmorganics.co.uk
Cyswllt: Jonathan Rees
Harvies Pies
Fferm Waen
Nercwys
Sir y Fflint
CH7 4EW
Ffôn/Ffacs:: 01352751285
E-bost:pastry5@btconnect.com
Cyswllt: Carol Harvie
Becws Siwgr a Sbeis
Pen y Bryn
Llanddoged
Llanrwst
LL26 0UB
Gwynedd
Ffôn: 01492 641940
E-bostl: siwgrasbeis@btinternet.com
Cyswllt: Rhian Williams / Rhian Owen
Castle Chocolates
52 Heol Caerdydd
Caerffili
CF83 1JG
Ffôn: 02920 882 229
E-bost: sales@castlechocolates.co.uk
Gwefan: www.castlechocolates.co.uk
Cyswllt: Dave Hughes
Cheeses From Wales Cyf
Pontrhydygroes
Ystrad Meurig
Ceredigion
SY25 6DP
Ffôn: 01974 282572
E-bost: gill@cheesesfromwales.co.uk
Gwefan: www.cheesesfromwales.com
Cyswllt: Gill Pateman
Stad Rhug
Corwen
Sir Ddinbych
LL21 0EH
Ffôn: 01490 413000
E-bost: philiphughes@Rhug.co.uk
Gwefan: www.rhug.co.uk
Cyswllt: Philip Hughes
The Patchwork Traditional Food Company
Llys Parcwr,
Stad Ddiwydiannol Lôn Parcwr,
Rhuthun,
LL15 1NJ
Ffôn: 01824 705832
E-bost: info@patchwork-pate.co.uk
Gwefan: www.patchwork-pate.co.uk
Cysylltydd: Marcus Carter