Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Caws Pob Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr
caws wedi?i ffrïo?n ddwfn gydag eirin
Article title

Cynhyrchwyr O Gymru Yn Darparu Gwledd Yn Y BBC Good Food Show

Full article

Mae nifer o gynhyrchwyr bwydydd a diodydd o Gymru yn mynd i Birmingham yr wythnos hon ar gyfer un o ddigwyddiadau defnyddwyr mwyaf y flwyddyn, y BBC Good Food Show (28 Tachwedd - 2 Rhagfyr).

Bydd dros 500 o arddangoswyr yn y digwyddiad a gynhelir yn yr NEC gyda theatrau bwyd, gweithdai blasu a dosbarthiadau meistr, gyda chefs enwog yn cynnwys Gordon Ramsey, Jamie Oliver, James Martin a Rick Stein.

Bydd nifer o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn arddangos yn y digwyddiad dan faner Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn eu plith bydd Welsh Farm Organics, yn dilyn eu llwyddiant yng Ngwobrau Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru 2007. Bydd gan y cynhyrchydd a siop fferm ar-lein o’r Canolbarth amrywiaeth o gynnyrch yn cynnwys syrlwyn cig oen organig, cig eidion Cymreig, ham o Sir Drefaldwyn wedi’i aer-sychu a byrgyrs.

Yn gyntaf roedd cyffug, yna ddiodydd llyfn a chaws, yn awr mae’r cwmni melysfwydydd bwyd gafr Kid Me Not wedi ehangu ei gynnyrch ymhellach drwy lansio amrediad o siocledi.

Mae’r busnes teuluol o Dalyllychau ger Llandeilo yn defnyddio llaeth eu geifr eu hunain i wneud eu holl gynnyrch. Ar gael mewn bariau yn ogystal â siapiau Nadoligaidd, bydd yr amrediad yn cynnwys triwfflau champagne hufen geifr ffres mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Mae Savina UK, a lansiwyd gwta ddeufis yn ôl yng Nghasnewydd, yn cynnig amrediad o hamperau  bwyd a rhoddion newydd a blaengar o ardal Môr y Canoldir yn cynnwys Fiesta Ffrwythau, gwirod rwm sbeislyd a enillodd wobr aur yng Ngwobrau Gwir Flas eleni. Bydd y cwmni yn lansio ei wefan yn y sioe www.savinauk.com gan alluogi cwsmeriaid i greu eu hamperi eu hunain.

Gall ymwelwyr sychedig brynu poteli 50cl o dd?r mwynol naturiol llonydd a phefriog Brecon Carreg. Yn ogystal â helpu i dorri syched yn y Sioe, bydd y cwmni yn arddangos ei holl amrediad o boteli sy’n cynnwys capiau fflat a chwaraeon.

Mae Hufen Sur a Garlleg Gwyllt y Cotswolds, Ychen Rhost, Ham a Mwstard Seisnig a Chilli Melys ymysg rhai o’r creision o amrediad Real Crisp fydd ar gael yn y Sioe. Y cwmni o Gasnewydd yw’r unig gwmni yng Nghymru sy’n cynhyrchu creision a gwerthir ei gynnyrch ym mhob rhan o’r wlad.

Bydd amrediad Daioni o ddiodydd blaslaeth organig ar gael yn y Sioe diolch i Trioni Cyf.

Daw diodydd y cwmni o Sir Benfro mewn blasau mefus, siocled, banana a llugaeron a mefus ac maent yn isel mewn siwgr heb unrhyw flasau neu liwiau artiffisial. Mae Daioni ar gael mewn cartonau 250ml a 125ml.

Bydd Castle Chocolates o Gaerffili yn mynd â’u triwfflau champagne a Baileys newydd, ynghyd ag amrediad o gynnyrch siâp castell a siocledi traddodiadol.

Yn dangos ei amrediad o olewydd pur iawn o un stad fydd Ferranti o Ben-y-bont ar Ogwr sy’n cynhyrchu olewydd o’i berthi olewydd hynafol eu hunain yng Nghatalunya, Sbaen. Caiff tri math o olewydd - Sevillenca, Morrut a Farga - eu tyfu gan deulu Ferranti yn eu perthi olewydd yn y bryniau ger mynyddoedd Coll de L’Alba. Hefyd yn y Sioe fydd almonau a gynaeafir o’r 300 o goed almon sydd wedi’u plannu ymhlith yr olewydd. Mae’r cwmni hefyd yn berchen ar sawl gwinllan yn yr ardal a byddant yn dangos eu gwinoedd yn y digwyddiad.

Bydd Harvies Pies,  cwmni poblogaidd ar sioe ‘Blas ar Gymru’ ar sianel siopa deledu QVC, yn mynd â chwech o’u mathau unigol o basteiod i’r sioe. Bydd gan y cwmni o Sir y Fflint basteiod stêc a chwrw, stêc ac aren, stêc a marchruddygl a mwstard cyflawn, stêc, brandi a grawn pupur wedi’i gracio a stêc Wellington.

Bydd Bouncing Berry, caws cheddar gyda llugaeron yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y BBC Good Food Show. Hefyd ar gael gan Gwmni Caws Eryri mae pecynnau lliwgar Black Bomber, Green Thunder, Red Devil, Pickle Power, Ginger Spice ac Amber Mist.

I gael manylion pellach am gynnyrch cysylltwch â:

Brecon Carreg Natural Mineral Water
Llwyndewi Isaf
Trap
Llandeilo
Sir Gaerfyrddin
SA19 6TT
Ffôn: 01269 850175
E-bost: g.bullock@spa.co.uk
Gwefan: www.breconwater.co.uk
Cyswllt: Gill Bullock

Castle Chocolates
52 Heol Caerdydd
Caerffili
CF83 1JG
Ffôn: 02920 882229
E-bost: sales@castlechocolates.co.uk
Gwefan: www.castlechocolates.co.uk
Cyswllt: David Hughes

Ferranti
Clwb Golff St Mary’s
St Mary’s Hill
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5EA
Ffôn: 01656 865136
E-bost: admin@ferrantioliveoil.com
Gwefan:www.ferrantioliveoil.com
Cyswllt: Andrew Norris

Harvies Pies
Fferm Waen
Nercwys
Sir y Fflint
Ffôn: 01352751285
Symudol: 07813 810721
E-bost:pastry5@btconnect.com
Cyswllt: Carol Harvie

Kid Me Not
Fferm Ffynnongrech
Talyllychau
Llandeilo
Sir Gaerfyrddin
SA19 7BZ
Ffôn: 01558 685935
E-bost: info@kidmenot.co.uk
Gwefan: www.kidmenot.co.uk
Cyswllt: Loraine Makowski-Heaton

Savina UK Cyf
75 Stryd Commercial
Rhisga
Casnewydd
NP11 6AW
Ffôn: 01633 614455
E-bost: paul@savina.com.mt
Gwefan:www.savinauk.com
Cyswllt: Paul Mendel

Real Crisps
Sirhowy Valley Foods Cyf
17 & 18 Heol Willow
Stad Ddiwydiannol Penyfan
Crymlyn
Casnewydd
NP11 4EG
Ffôn: 01495 241960
E-bost: swenham@realcrisps.com
Gwefan: www.realcrisps.com
Cyswllt: Sarah Wenham

Caws Eryri
Uned B6  Trem-y-Dyffryn
Stad Ddiwydiannol Colomendy
Dinbych
LL16 5TX
Ffôn: 01745 813388
E-bost: llyr.owen.jones@snowdonia-cheese.co.uk
Gwefan: www.snowdoniacheese.co.uk
Cyswllt: Llyr Owen Jones

Trioni Cyf
Ffosyficer
Abercych
Boncath
SA37 0EU
Ffôn: 01239 682572
E-bost: teleri@trioni.com
Gwefan: www.trioni.com
Cyswllt: Teleri Thomas

Welsh Farm Organics
Tyn-y-fron
Pentre
Mochdre
Powys
SY16 4JW
Ffôn: 01686 627979
E-bost: sales@welshfarmorganics.co.uk
Gwefan: www.welshfarmorganics.co.uk
Cyswllt: Jonathan Rees

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 4 December 2007