Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr Ffagots gyda stwnsh pys a mint
Caws Hufenfa De Arfon - Hen Sir
Article title

Blas ar Gymru yn cael gwedd newydd yn y Sioe Fwytai

Full article

Bydd ymwelwyr i’r Sioe Fwytai (The Restaurant Show) ar  (8-10 Hydref) yn cael gwledd i’r llygaid a’r dannedd yn stondin arddangos newydd y Gwir Flas gyda chyfle i flasu amrediad o fwydydd a diodydd o Gymru.

Mae’r sioe a gynhelir yng nghanolfan arddangos Earls Court 2 yn Llundain wedi’i hanelu’n llwyr at y diwydiant bwytai ym Mhrydain bellach yn ei 19eg flwyddyn a’r llynedd denodd dros 12,000 o ymwelwyr o’r diwydiant lletygarwch.

Bydd nifer o gwmnïau o Gymru yn arddangos dan faner Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru, sydd â stondin arddangos gwedd newydd.

Yn dros 330 metr sgwâr o faint, stondin newydd y Gwir Flas yw’r uned arddangos fwyaf yn y Sioe. Mae ganddi arwydd a chynllun lliw newydd trawiadol, sgriniau plasma, ceginau gyda muriau gwydr - gan wneud y broses baratoi yn rhan o’r arddangosiad - a thri ‘gwregys sushi’ a wnaed yn arbennig iddi a fydd yn troi o amgylch y stondin yn arddangos cynnyrch a chynnig tameidiau math tapas i ymwelwyr.

Mae’r chef gwobrwyol Mary Anne Gilchrist o fwyty’r Carlton Riverside yn Llanwrtyd wedi creu bwydlen yn cynnwys y cynnyrch a ddangosir.

Dywedodd Elin Jones, y Gweinidog Materion Gwledig, “Ym marchnad gystadleuol heddiw, mae’n rhaid i gynhyrchwyr fedru sefyll allan. Mae pwysigrwydd gwneud argraff yn nigwyddiadau pwysig y diwydiant megis y Sioe Fwytai yn hollbwysig i gynhyrchwyr Cymru sy’n dymuno cynyddu nifer eu cwsmeriaid.

“Rwy’n siwr y bydd stondin gwedd newydd Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru yn denu ymwelwyr a gobeithio’n arwain at fwy o fusnes i’r cwmnïau hynny sy’n mynychu’r sioe ac yn adlewyrchu rhagoriaeth a natur ddeinamig diwydiant bwyd a diod Cymru yn ei gyfanrwydd.”

Ymysg y cwmnïau o Gymru fydd yn arddangos dan faner y Gwir Flas mae siop ffarm ar-lein Welsh Farm Organics. Mae’r cwmni o Ganolbarth Cymru newydd ychwanegu selsig parod i’w bwyta - y Mochdre Pole - i’w amrediad cynnyrch, sy’n cynnwys ham wedi ei aer-sychu, cig eidion, cig oen a phorc. Cafodd y selsig newydd ei hysbrydoli gan Ddwyrain Ewrop ac fe’i gwneir o borc, garlleg, marjoram a phupur du wedi ei rostio a’i fygu dros dân draenen ddu.

Bydd Cheeses from Wales, y fenter gydweithredol o 12 o gynhyrchwyr caws o Gymru, yn mynd ag amrywiaeth o gawsiau eu haelodau i’r Sioe Fwytai. Bydd cawsiau gan: Caerfai Organic, Caws Cenarth, Caws Mynydd Du, Caws Nantybwla, Fairfield Foods (Colliers), Llanboidy Cheesemakers, Cawsiau Merlin, Caws Ffermdy Pantmawr, Cwmni Caws Eryri a Chaws Ffermdy Teifi. Bydd hefyd gawsiau gan aelodau newydd y fenter, San Cler Organic a Chwmni Caws Blaenafon.

Cafodd cwmni dwr ffynnon Princes Gate o Sir Benfro ei greu drwy gynllun arallgyfeirio fferm, a bydd yn dangos ei frandio corfforaethol newydd yn y Sioe. Mae’r cwmni’n cynhyrchu dwr ffynnon llonydd a phefriog a dwr â blas mewn amrywiaeth o feintiau a chynlluniau potel - yn cynnwys ei amrediad gwydr cyfoes llyfn newydd, sy’n neilltuol o addas i’r diwydiant lletygarwch.

Y Nadolig fydd ar feddwl The Welsh Sausage Company gyda’i amrediad o beli stwffin a ddaw mewn tri math: porc, porc ac afal a llysieuol. Bydd y cwmni o’r Trallwng hefyd yn arddangos ei fyrgyrs eidion a pheli cig cartref newydd safon uchel, ynghyd â’i amrediad eang o selsig.

Bydd gan Vin Sullivan Foods Cyf o Flaenafon yng Ngwent, sy’n arbenigo mewn cyflenwi bwytai, amrediad o gynnyrch ffres a pharod i’w bwyta. Yn ogystal â’i amrediad o gynnyrch cig oen a chig eidion Cymreig, porc, bwyd môr, cawsiau ffermdy, stoc gourmet, siytni a phwdinau, bydd detholiad o gynnyrch gêm newydd. Byddant hefyd yn dangos cig oen Cymreig newydd wedi’i aer-halltu ac arddangosiad o sawsiau, siytni a chadwolion.

Bydd Ferranti, cynhyrchydd olew’r olewydd o Ben-y-bont ar Ogwr, yn arddangos ei amrediad o olew’r olewydd pur iawn o un stad a gynhyrchwyd o’i berthi olewydd hynafol ei hunan yng Nghatalonia, Sbaen. Caiff tri math o olewydd - Sevillenca, Morrut a Farga - eu tyfu gan y teulu Ferranti yn eu perthi olewydd wrth odre mynyddoedd Coll de L’Alba . Hefyd yn y Sioe Fwytai fydd almonau a gaiff eu casglu o’r 300 o goed almon sydd wedi’u plannu ymhlith y perthi olewydd. Mae’r cwmni hefyd yn berchen ar nifer o winllannoedd yn yr ardal a byddant yn arddangos eu gwinoedd yn y digwyddiad.

Bydd The Fresh Pasta Company, a symudodd ei bencadlys yn ddiweddar i adeiladau mwy ym Merthyr Tudful, yn dangos ei basta gwobrwyol a wneir â llaw. Mae’r cwmni, sy’n awr yn cynhyrchu ei basta ger Llyn Garda yn yr Eidal, yn gwneud ei amrediad gyda blawd “00” ac wy a’r cynhwysion naturiol gorau. Yn y Sioe bydd ei basta plaen ffres - yn cynnwys y Tagliatelli Pupur Du Craciog newydd - a’i basta rhewedig sydd wedi’i anelu at y sector lletygarwch  ac wedi’i lenwi gyda phethau megis Tortelli Sgwas Cnau Menyn a Saets, Tortelli Asbaragws a Pecorinio, Tortelli Cawsiau Tremosine, Tortelloni Cig Carw, Ravioloni Madarch Gwyllt a Gnocchi Tatws.

Bydd nifer o *gwmnïau bwyd a diod eraill hefyd yn arddangos yn y Sioe dan fantell Cyngor Sir Caerfyrddin.

MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost sheila@colemanroberts.co.uk

CWMNÏAU SY’N ARDDANGOS DAN FANER Y GWIR FLAS

I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch cysylltwch â:

Cheeses from Wales
Pontrhydygroes
Ystrad Meurig
Ceredigion
Ffôn: 01974 282572
E-bost: sales@cheesesfromwales.com
Gwefan: www.cheesesfromwales.com
Cyswllt: Gillian Pateman

Cyngor Sir Caerfyrddin
Datblygu Economaidd
Canolfan Busnes Gwledig
Nant y Ci
Caerfyrddin
SA33 5DR
Ffôn: 01267 242331
E-bost: BaDavies@carmarthenshire.gov.uk <mailto:BaDavies@carmarthenshire.gov.uk>
Cyswllt: Barry Davies

Ferranti
Gwesty St Mary
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5EA
Ffôn: 01656 865136
E-bost: admin@ferrantioliveoil.com
Gwefan:www.ferrantioliveoil.com
Cyswllt: Andrew Norris

Princes Gate Spring Water
Fferm New House
Prince’s Gate
Arberth
Sir Benfro
SA67 8JD
Ffôn: 01834 831225
E-bost: nicola@princesgatespringwater.com
Gwefan: www.princesgatespringwater.com
Cyswllt: Nicola Merriman

The Fresh Pasta Company Cyf.
Ty Compass
Parc Diwydiannol Merthyr Tudful
Merthyr Tudful
CF48 4DR
Ffôn: 0845 603 7746
E-bost: pasta@thefreshpastacompany.com
Gwefan: www.thefreshpastacompany.com
Cyswllt: Mark Garcia-Oliver

The Welsh Sausage Company
4 Stryd Aber-riw
Y Trallwng
Powys
SA21 7AD
Ffôn: 01938 552331
E-bost: john@langfords-foodhall.co.uk
Gwefan: www.langfords-foodhall.co.uk
Cyswllt: John Langford

Vin Sullivan Foods Cyf
2 Stad Gilchrist Thomas
Blaenafon
Torfaen
NP4 9RL
Ffôn: 01495 792792
E-bost: sales@vin-sullivan.co.uk
Gwefan: www.vin-sulllivan.co.uk
Cyswllt: John Sullivan

Welsh Farm Organics
Tyn-y-fron
Pentre
Mochdre
Powys
SY16 4JW
Ffôn: 01686 627979
E-bost: sales@welshfamorganics.co.uk
Gwefan: www.welshfarmorganics.co.uk
Cyswllt: Jonathan Rees


*CWMNÏAU’N ARDDANGOS DAN FANELL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN

Carmarthen Ham (Albert Rees Cyf)
Brecon Carreg Water
Caws Cenarth
Bragdy Felinfoel
Carmarthenshire Cheese Co
Pont Gar
Cwrw Ffos y Ffin
Becws Pencader
Kid Me Not
Leslie A Parsons & Sons
Llanboidy Cheesemakers
Nantybwla Farmhouse Cheese
Pembertons Victorian Chocolate
San Cler
Tregroes Waffles
Maureen’s Cakes
Philip Hughes, Cigydd

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 2 October 2007