Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
caws wedi?i ffrïo?n ddwfn gydag eirin Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr
Cebabau oen Cymreig
Article title

Gwaith tim yn dodi cynnyrch cwmni cyri o Gymru ar y fwydlen yn Asda

Full article

Mae’r Authentic Curry Company  o Dde Cymru wedi lansio amrediad newydd o brydau parod mewn storau Asda ledled Cymru.

Caiff chwe phryd rhew newydd y cwmni - Madras Cig Eidion Cymru, Bourguignon Eidion Cymru, Caserol Eidion Cymru, Cyw Iâr Cymru, Afu ?yn Cymru mewn Grefi Nionod a Chyri Cyw Iâr - eu gwerthu mewn 18 stôr Asda dan label Authentic World Foods.

Dywedodd Paul Trotman - sefydlydd a rheolwr gyfarwyddwr The Authentic Curry Company - fod y cytundeb yn enghraifft wych o ymagwedd ‘tîm’ at gynhyrchu a dosbarthu bwyd yng Nghymru.

“Rydym yn falch iawn i gyflwyno’r seigiau newydd hyn i Asda. Rydym yn falch iawn o’n gwreiddiau yng Nghymru - ac i ni ennill gwobr Gwir Flas - a chawn gynifer o’n cynhwysion ag sy’n bosibl o Gymru.

“Mae gan ein seigiau cig eidion Cymreig logo ‘Cig Eidion o Gymru’ Hybu Eidion Cymru yn ogystal â logo Celtic Pride, a chawn ein afu ?yn gan Welsh Brothers o Gasnewydd, meddai.

“Cafodd y pecyn ei gynllunio a’i ddatblygu gan Creative Packaging, cwmni arall o Gymru, gyda help grant Cronfa Datblygu Bwyd-Amaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Caiff ein bwydydd eu dosbarthu gan Castell Howell Foods Cyf o Cross Hands.”

Ychwanegodd Paul Trotman: “Cawsom gefnogaeth wych gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’n cydweithwyr yn y diwydiant bwyd a diwydiannau cysylltiedig gan wneud hon yn stori llwyddiant ‘Tîm Cymru’ go iawn o’r cychwyn i’r gorffen.”

Ffurfiwyd The Authentic Curry Company yn 1995 ac mae’n awr yn cynhyrchu 100 o wahanol seigiau ac yn cyflogi dros 30 o bobl yn ei ganolfan yn Hirwaun.

Dywedodd Mark Townsend, prynwr lleol Asda ar gyfer Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr: “Rydym yn hynod falch i fedru cefnogi cynnyrch a busnesau bwyd o Gymru fel yr Authentic Curry Company, a thrwy wneud hynny rydym yn medru cynnig hyd yn oed fwy o fwydydd o Gymru i ddefnyddwyr.”

Dywedodd Brian Jones, Llysgennad 2006/07 y Gwir Flas a rheolwr gyfarwyddwr Castell Howell: “Mae cydweithio a ffurfio partneriaethau yn rhan bwysig o hyrwyddo diwydiant bwyd a diod Cymru a chael y gofod mae cynnyrch Cymru’n ei haeddu ar silffoedd siopau a storau.

“Drwy gydweithio, gall cynhyrchwyr Cymru ddod yn rym cryfach ac ennill mwy o gyfran mewn marchnad gystadleuol iawn. Mae’r Authentic Curry Company yn ymroddedig i gefnogi cwmnïau eraill yng Nghymru ac mae eu cytundeb gyda Asda yn dangos yn union pa mor effeithlon y gall cydweithredu effeithlon yn y gadwyn fwyd fod.”

MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk

I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch cysyllter â:

The Authentic Curry Company
Unedau 46/47
Stad Ddiwydiannol Hirwaun
Hirwaun
Rhondda Cynon Taf
CF44 9UP
Ffôn: 01685 810044
E-bost: paul.trotman@authenticcurry.co.uk
Cyswllt: Paul Trotman


Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 15 October 2007