Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Pastai filo sbiboglys a chaws Wyau pob organic
Cig Hwyad Hallt Cymreig ac Eirin Damson wedi'u piclo
Article title

Adwerthwyr yn dewis Chwech o’r Goreuon

Full article

Mae siopau fferm, siopau deli a mân-werthwyr annibynnol ym mhob cwr o Gymru yn paratoi i hyrwyddo rhai o’r cynnyrch bwyd a diod gorau o Gymru fel rhan o hyrwyddiad Chwech o’r Goreuon ar draws y Deyrnas Unedig (23 Hydref - 5 Tachwedd).

 

Bellach yn ei drydedd flwyddyn, mae hyrwyddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru a The Guild of Fine Food yn helpu manwerthwyr i ddathlu ansawdd ac amrywiaeth cynnyrch gwobrwyol Cymru a hysbysu ble mae ar gael.

 

Bydd pob allfan sy’n rhan o’r hyrwyddiad yn stocio chwech o gynnyrch gwobrwyol Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru ac yn eu tro yn derbyn deunyddiau marchnata i’w helpu i hyrwyddo’r cynnyrch, yn ogystal â lwfans profi o £25.

 

Y llynedd, cynyddodd gwerthiant cynnyrch o Gymru gan 49% yn yr allfannau yn cymryd rhan yn Lloegr fel canlyniad i hyrwyddiad Chwech o’r Gorau.

 

Dywedodd un manwerthwr, “Ymgyrch ardderchog. Fe wnaeth gynyddu ein gwerthiant o gynnyrch newydd a hefyd ein gwerthiant drwyddi draw.” Dywedodd un arall, “Syniad gwych. Roedd cwsmeriaid wrth eu bodd yn profi’r cynnyrch, ac yn wirioneddol gyffrous am yr hyrwyddiad.”

 

Mae Gwobrau Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru a reolir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod rhagoriaeth ac arloesedd yn y diwydiant. Yn y chwe blynedd ddiwethaf mae bron 200 o gynnyrch cyffrous wedi ennill gwobrau felly mae rhestr sylweddol a chyffrous i fanwerthwyr ddewis o’u plith yn cynnwys: cawsiau Caws Cenarth, paté Patchwork, iogwrt Rachel’s Organic, blawd a llawer mwy.

 

I gael mwy o wybodaeth, medrir cysylltu â John Farrand yn The Guild of Fine Food drwy ffonio: 01963 824464 neu e-bost: john.farrand@finefoodworld.co.uk .  Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am ddeunydd man gwerthu a marchnata Chwech o’r Goreuon yw 17 Hydref 2008.

I gael mwy o wybodaeth neu ddelweddau cysyllter â:

Holly Blake, Caroline Reincke, Georgie Hope neu Natalie Jeune ar 020 7845 6600,

e-bost: truetasteofwales@focuspr.co.uk neu ffacsio: 020 7845 6601

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 2 October 2008