Mae gwledd yn disgwyl pobl hoff o hufen iâ wrth i Frank’s, cwmni gwobrwyol o Orllewin Cymru, lansio eu hufen iâ safon uchaf yn storau Tesco yng Nghymru.
Bydd Frank’s yn lansio pum math o’i hufen iâ poblogaidd mewn tybiau un litr - fanila, mefus a hufen, banana, mintys a sglodion siocled, a hufen iâ fanila i bobl sydd â diabetes.
Bu’r cwmni o Gapel Hendre ger Rhydaman yn gwneud hufen iâ am 80 mlynedd a chaiff ei redeg gan y brodyr Giulio a Renaldo Dallavalle. Sefydlwyd y busnes hufen iâ gan Francesco, tad-cu'r brodyr - a roddodd enw Frank’s i’r cwmni - a agorodd gaffe Eidalaidd ym mhentref Garnant yn y 1920au, ychydig flynyddoedd ar ôl iddo fudo i Gymru o’r Eidal. Mae bellach yn cyflogi 25 o bobl ac yn cynhyrchu tua phum miliwn litr o hufen iâ bob blwyddyn.
Yn awr yn tyfu mewn poblogrwydd gyda brand cryf a adnabyddir yn genedlaethol, mae hefyd yn cyflenwi hufen iâ i ysgolion ac ysbytai ym mhob rhan o Gymru.
Mae’r cwmni’n dweud mai dawn ac angerdd yr Eidalwyr, ynghyd â’r cynhwysion gorau o Gymru, yw’r hyn sy’n gwneud hufen iâ mor wych.
“Rydym wrth ein bodd i gyflenwi Tesco, a bydd yn ein galluogi i gyrraedd llawer iawn mwy o gwsmeriaid,” meddai Giulio Dallavale. “Mae Tesco yn gefnogol iawn i gynnyrch rhanbarthol ac mae Frank’s yn frand Cymreig cryf iawn gyda phecyn dwyieithog ac apêl gref i gwsmeriaid.
“Er bod gwerthiant hufen iâ yn dymhorol a’r tywydd yn dylanwadu arno, mae’r farchnad cludo gartref yn tyfu ac mae pobl yn prynu hufen iâ i’w fwyta gartref drwy gydol y flwyddyn. Mae’r Nadolig yn awr bron mor brysur â misoedd yr haf.”
Gwneir hufen iâ Frank’s o laeth a hufen dwbl lleol o Gymru gyda blasau a lliwiau naturiol. Enillodd wobr hufen iâ gorau’r Deyrnas Unedig saith gwaith yn yr ugain mlynedd ddiwethaf.
Yn gynharach eleni derbyniodd y cwmni grant Prosesu a Marchnata Llywodraeth Cynulliad Cymru a ariannodd ehangu’r ffatri a phrynu offer newydd i gynyddu cynhyrchiant.
Dywedodd Mark Grant, Uwch Reolwr Prynu Tesco yng Nghymru:
''Mae’n wych gweithio gyda Frank’s o Gapel Hendre a chael cyfle i gyflwyno blasau gwych newydd o hufen iâ o Gymru i’n cwsmeriaid yng Nghymru.”
CYSWLLT:
Leigh Roberts (01656) 788336 neu leigh@colemanroberts.co.uk
Giulio Dallavalle
Hufen Iâ Frank
Stad Ddiwydiannol Capel Hendre
Rhydaman
Sir Gaerfyrddin
SA18 3SJ
giulio@franksicecream.co.uk
www.franksicecream.co.uk