Mae pedwar ar ddeg o wneuthurwyr caws o Gymru ar y rhestr fer am y brif wobr yn 15fed Gwobrau Blynyddol Caws Prydeinig a gynhelir eleni yng Nghaerdydd.
Bydd siopwyr i storau Tesco yng Nghymru yn cael cyfle i brofi gwir flas Cymru yn ystod y bythefnos nesaf wrth i’r farchnad gefnogi Pythefnos Fwyd Cymru (20 Medi - 5 Hydref 2008).
Bydd ystod amrywiol o gynnyrch bwyd a diod Cymru yn cael eu dangos i’r byd yr wythnos nesaf yn SIAL, un o ddigwyddiadau masnach mwyaf y byd (19-23 Hydref).
Bydd ymwelwyr i ?yl y Great British Cheese a gynhelir yng Nghaerdydd yr wythnos hon (27 - 28 Medi) yn medru profi a phrynu amrywiaeth o fwydydd a diodydd o Gymru.
Mae Matt Tebbutt, y chef sy’n gyfrifol am fwyty The Foxhunter yn Sir Fynwy, yn dod â blas cefn gwlad i’r cartref gyda chyhoeddi ei lyfr rysetiau ‘Matt Tebbutt Cooks Country’ fis nesaf.