Golwg Ar Fwyd Cymru - RhagfyrYm mis Rhagfyr, mae'r dydd yn fyr a'r nosweithiau'n hir, yn dywyll ac yn oer. Mae'r haul yn isel yn yr awyr ac nid yw'n rhoi llawer o wres. Mae arnom angen bwyd i'n cynhesu ac i godi'n calon. Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan rydym yn mynd allan i swpera a daw'r uchafbwynt gyda'r Cinio Nadolig pan fyddwn yn anghofio am ddiflastod y gaeaf. Yn yr Oesoedd Canol, byddai gwleddoedd anferth yn cael eu cynnal yn y plastai a byddai'r boneddigion yn dod ynghyd i gael eu difyrru gan y beirdd a'r cerddorion teithiol. Byddai'r byrddau'n drymlwythog o gig carw, cig dafad, cig eidion, gwyddau, creyrod glas ac adar gwyllt eraill. Byddent yn mwynhau sawsiau a phwdinau moethus, lliwgar a melys gyda diod feddwol wedi'i gwneud o fêl wedi'i eplesu ac aeron gwyllt. Roedd y bwydydd a'r diodydd moethus, melys yn ardderchog yn y gaeaf oer. Byddai pobl yn bwyta gwydd rost i ginio Nadolig. Byddai'r wydd yn ddigon gwydn i wrthsefyll oerfel y gaeaf ar ôl pori yn y caeau trwy'r haf a'r hydref. Tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg y daeth twrci'n boblogaidd i'w gael i ginio Nadolig. O Ogledd America y daeth a, chyn hir, roedd ffermwyr ym Mhrydain yn dechrau magu twrcwn ar raddfa fawr. Mae'r tywydd yn Sir Benfro yn fwynach na gweddill Prydain yn ystod y gaeaf ac felly mae'n ardal addas iawn i fagu twrcwn. Mae ffermio twrcwn yn fusnes mawr erbyn hyn ac mae'r cig i'w gael ar silffoedd ein harchfarchnadoedd trwy gydol y flwyddyn. Ond, yn ddiweddar, mae marchnad arbenigol wedi datblygu ar gyfer twrcwn buarth a hyd yn oed dwrcwn sydd wedi'u magu ar ddeiet organig. Mae twrcwn fel hyn gryn dipyn yn ddrutach na rhai sydd wedi'u mas-gynhyrchu. Mae cnawd twrci buarth yn eithaf cadarn a chlòs ac mae iddo flas arbennig, tebyg i helgig. Mae'n hyfryd wedi'i goginio fel arfer gyda'r cyfwydydd traddodiadol - stwffin, rholiau bacwn a chipolata, saws bara a llugaeron. Daeth gwydd yn fwy poblogaidd eto yn ddiweddar er nad yw'n rhoi cymaint o gig â thwrci o bell ffordd. Mae blas arbennig ar gnawd tywyll yr wydd ac mae'n dda gyda stwffin perlysiau a saws afalau. Cyflenwyr dofednod buarth o safon uchel yng Nghymru Twrcwn Caermelyn Turkeys Henllan Amgoed, Hendy-gwyn Sir Gaerfyrddin SA34 0SJ Ffôn/ffacs: 01994 240260 www.caermelyn.co.uk Cardi Turkeys Tyn Parc Llandre Bow Street Aberystwyth SY24 5BU Ffôn/ffacs 01970 828375 S G Davies and Sons Cuckoo Mill Farm Pelcomb Bridge Hwlffordd Sir Benfro SA62 6EA Ffôn: 01457762139 Rhug Organics Corwen Sir Ddinbych LL21 0EH Ffôn: 01490 413000 www.rhugorganicfarm.co.uk A D Holt Wilson Cefn Maen Raglan Sir Fynwy NP15 2HR Ffôn/ffacs: 01291 690428 e-bost: cefn-maen@email.msn.com The Old Butchers Maenclochog Clunderwen Sir Benfro SA66 7LE Ffôn: 01437 532202 Welsh Haven Products Whitegates Little Haven Sir Benfro SA62 3LA Ffôn: 01437 781552 Ffacs: 01437 781386 e-bost: welshhaven@aol.com Gwyddau B G Carey and Sons Coedwynog Felindre Fachog Crymych Sir Benfro SA41 3XW T Herdman and Son Cefn Betws Bungalow, Clyro Ffôn/ffacs: 01497 851255 Rysáit Gall y stwffin a gewch gyda thwrci neu wydd ychwanegu'n fawr at flas y cig a'ch mwynhad ohono. Gallwch brynu stwffin traddodiadol yn y siopau ond, o ychwanegu rhai cynhwysion arbennig, gallwch wneud stwffin arbennig iawn ag iddo arogl a blas i fywiogi'r cig. Gallwch roi ychydig o lysiau blas fel ciwbiau moron, seleri a winwns neu shalóts a pherlysiau wedi'u torri'n fras fel taragon, teim, coriander, saets neu bersli yng ngheudod yr aderyn gydag ychydig o halen a phupur. Mae gwddf yr aderyn yn lle da i roi stwffin traddodiadol. Gellir gwthio'r gwddf dros y frest trwy dynnu'r croen oddi wrth y cig i wneud poced dros y frest, ac felly bydd y blas yn trosglwyddo i'r cig. Gellir defnyddio math arall o stwffin i lenwi ceudod yr aderyn hefyd. Peidiwch â'i orlenwi gan fod y cig yn coginio'n well os bydd ychydig o le gwag yn y ceudod. Os dymunwch gallwch brynu stwffin parod a rhoi'ch llysiau a'ch perlysiau eich hunan ynddo i ychwanegu at y blas. Stwffin sylfaenol: digon i chwech 200g briwsion bara 200g moron, seleri, a sialóts neu winwns wedi'u torri'n giwbiau mân 100g rhan wyn cenhinen wedi'i thorri'n giwbiau mân 25g menyn chwe deilen saets ffres wedi'u torri'n fân neu 1 llond llwy de saets sych 2 sbrigyn mawr o bersli wedi'u torri'n fras 50g cnau castan wedi'u coginio (neu o dun) wedi'u torri'n giwbiau mân zest hanner lemon (os dymunwch) Halen Môn a phupur du newydd ei falu 1 wy a dwr poeth Gwnewch ddwbwl ar gyfer parti mawr I lenwi'r ceudod 200g winwns, moron a seleri wedi'u torri'n fân, a sesnin 500g sosejis neu chipolatas da Ffrïwch y llysiau mewn menyn tan eu bod yn dechrau meddalu a throi eu lliw. Ychwanegwch y cennin a'u coginio am funud. Ar ôl iddynt oeri, torrwch nhw'n eithaf mân - mewn prosesydd bwyd os mynnwch. Ychwanegwch y perlysiau a'r briwsion bara a'r cnau castan a'u cymysgu'n dda. Ychwanegwch y sesnin a'r croen lemon. Yna, ychwanegwch yr wy a'r dwr cynnes a'u cymysgu. Gwthiwch eich bysedd rhwng croen a brest yr aderyn i wneud poced eithaf mawr. Taenwch y stwffin y tu mewn i'r boced a llenwi'r gwddf. Defnyddiwch bren coctel neu sgiwer i gau'r boced. Rhowch foron, winwns a seleri wedi'u torri'n giwbiau bras y tu mewn i'r ceudod gyda'r sesnin a pherlysiau. Yna rhowch 500g o'r sosejis gorau yn y ceudod gan eu gwasgaru'n dda fel bod lle i'r aer gylchdroi. Rhostiwch y twrci neu'r wydd fel arfer a'i gweini gyda'r stwffin a'r sosejis. Caws y Mis Caws glas Caws Cenarth Mae'n draddodiad bwyta Caws Stilton dros y Nadolig. Ar ôl y cinio, mae gwydraid o port, ychydig o gnau a Stilton aeddfed yn ffordd ardderchog o orffen y pryd. Dros yr ugain mlynedd diwethaf, gwelwyd cynnydd mawr yn y mathau o gaws sydd ar gael, o'r cyfandir ac o Brydain ac, erbyn hyn, mae sawl math o gaws y gallech eu dewis yn lle Stilton e.e. Roquefort, Bleu de Bresse, Cashel Blue a Shropshire Blue. Caws Cenarth yw'r cyntaf i wneud caws glas Cymreig gwirioneddol lwyddiannus. Dyma'r cwmni sydd wedi ennill gwobrau am eu caws Caerffili a chaws meddal Perl Wen. Roedd y prosiect i wneud caws glas yn dipyn o her i Carwyn Adams, mab Thelma Adams a sefydlodd Caws Cenarth. Caws glas lled galed yw Perl Las. Mae'n eithaf tebyg ei ansawdd i Stilton. Defnyddir llwydni glas roqueforti i roi lliw a blas i'r caws ac mae'n cael ei aeddfedu am fisoedd. Mae'r ffordd y mae'n toddi yn eich ceg a'r blas cyfoethog yn golygu ei fod yn gaws ardderchog i orffen eich Cinio Nadolig. Mae ar gael mewn siopau delicatessen ledled Cymru ac yn Howells Food Hall, Heol y Santes Fair, Caerdydd. Caws Cenarth, Boncath, Dyfed SA37 0LH Ffôn: 01239 710432 www.cawscenarth.co.uk Romy Cuisine Mae Guy a Romy Simon wedi symud i Gymru ac maent yn gwneud pates a terrines traddodiadol o gynhwysion Cymreig. Caiff y bwydydd eu selio mewn jariau ac maent para'n hir ar y silff. Dyma anrhegion Nadolig delfrydol. Ymhlith eu cynhyrchion ceir Farmer Terrine, sy'n cynnwys cig ac afu, Rabbit Terrine, Duck Rillettes, Pheasant Pate a llawer rhagor. Maent hefyd yn mewnforio foie gras ac yn gwneud terrine de foie gras gan ddefnyddio Sauternes i roi blas iddo. Dyna i chi drêt. Pan oedd Guy a Romy'n cadw gwesty yn nyffryn Lot yng Nghanolbarth Ffrainc, fe dreulion nhw sawl gaeaf yn gweithio mewn gwestai yng Nghymru. Cychwynnwyd Romy Cuisine ddwy flynedd yn ôl ac, eleni, llwyddwyd i ennill Gwobr Aur yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas. Romy Cuisine P O Box 106 Y Gelli Gandryll / Hay on Wye HR3 5YH Ffôn: 07855 531550 www.romycuisine.co.uk Siopa Nadolig Mae'n braf siopa am fwyd ar gyfer y Nadolig mewn siopau bach, annibynnol. Yn y Gogledd, ewch i siop Edwards o Gonwy (Ffôn: 01492 592443). Yn y Canolbarth, mae gan y Langfords Food Hall yn y Trallwng bob math o ddanteithion (Ffôn: 01938 552331). Yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ger Caerdydd, mae Cegin Cymru'n rhedeg Siop Gwalia (Ffôn: 029 2057 7018) lle gallwch brynu pob math o gynnyrch Cymreig fel caws, picls, jamiau, bisgedi, pice ar y maen ac ati. Hefyd, mae dewis ardderchog o fwydydd a diodydd Cymreig yng nghaffi a siop Blas yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Cliciwch yma i weld erthyglaw bwyd o'r archif |