Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion Bara lawr ffres gyda lemon
Caws llaeth gafr wedi?I bobi

Canolbwynt Bwyd Cymru - Mai

Y Sulgwyn

Gan amlaf, ym mis Mai y daw'r Sulgwyn a dyma pryd y bydd cefn gwlad ar ei harddaf. Mae'r coed yn blaguro ac yn deilio yn y gelltydd a'r cloddiau, ac mae'r caeau a'r rhosydd ar eu glasaf. Ceir ffrwydrad o liw mewn gerddi addurniadol gan flodau fel magnolias, asaleas, camelias a rhododendrons. Mewn fforestydd ac ar lethrau ceir carped glas o glychau'r gog â'u 'pêr, lesmeiriol baent' ac yn aml, mae'r afonydd, yn fywiog ac yn llawn bywyd ar ôl cawodydd y gwanwyn.

Wrth i'r dwr gynhesu'n araf, bydd y pysgod yn bywiogi, gan fwyta pryfetach, yn enwedig gwybed Mai. Bydd pysgod mudol yn dechrau dychwelyd i'r afonydd. Ceir llawer o samon a sewin o hyd yn y rhan fwyaf o afonydd Cymru - o Afon Gwy yn y de i Afon Dyfrdwy yn y gogledd. Ysgrifennodd Gerallt Gymro ym 1188 am yr eogiaid yn neidio dros raeadrau Cenarth ar Afon Teifi, ac am samon mawreddog Afon Gwy. Ond i'r gwir bysgotwr, sewin yw'r ddalfa fwyaf cyffrous a'r pryd mwyaf blasus. Yn ôl Gareth Edwards, mae dal sewin braf yn gwneud i'w galon guro'n gyflymach nag oedd sgorio cais dros Gymru.

Sewin neu frithyll y môr (salmo trutta)

Sewin neu frithyll y môr (salmo trutta)

Mae'r sewin yn perthyn i'r brithyll ond mae'n mynd i'r môr i ymborthi yn nyfroedd bras Môr Hafren a Môr Iwerddon. Yno, gall dyfu'n aruthrol, gan ddychwelyd ar ôl blwyddyn yn pwyso 1 - 2 cilo ac ar ôl dwy flynedd yn pwyso dros bedwar cilo. Mae'n dychwelyd i'r afon tua diwedd Ebrill, Mai, Mehefin a Gorffennaf a bydd yn treulio rhai misoedd yn datblygu ei bola gronell (a'i photen) cyn silio tua diwedd yr hydref a'r gaeaf. Mae yn y cyflwr gorau yn y gwanwyn, pan fydd 'newydd esgyn', yn wahanol i lawer o bysgod y môr sy'n bwrw'u grawn neu'n silio bryd hynny. Wrth i'r grawn ddatblygu, mae ansawdd y cig yn dirywio, ac nid yw mor flasus erbyn yr hydref.

Mae sewin yn pwyso 1.25 - 2 cilo (2.5 - 4.5 pwys) ar gyfartaledd. Cig pinc sydd ganddo a llawer o olew ynddo. Mae llawer yn oleuach na chig samon, yn enwedig samon sydd wedi'i ffarmio. Gellir coginio sewin fel samon, ei botsio neu ei bobi'n gyfan, ei dorri'n gytledi trwy'r asgwrn cefn neu'n ddarnau o ffiledi wedi'u torri ar hyd y pysgodyn. Gellir potsio, grilio, ffrio neu bobi'r darnau hyn. Os byddwch yn gwneud saws gyda sewin, gofalwch fod iddo flas ysgafn rhag iddo foddi blas y pysgodyn (gweler y rysáit). Mae sewin trwy fwg yn dda a gellir ei weini fel eog mwg.

Gellir gwahaniaethu rhwng sewin a samon yn gyffredinol oherwydd eu maint, bod mwy o smotiau ar sewin ac nad yw ei gynffon mor fforchiog. Gall sewin mawr edrych yn debyg iawn i samon ond mae gan samon 10 - 12 o gen rhwng yr asgell fras (yr asgell feddal ger y gynffon a'r llinell ystlysol) ac mae gan sewin 13 - 16.

Mae sewiniaid wedi'u ffermio'n llwyddiannus yn nyfroedd Aberdaugleddau er nad ydynt hwy, (na samon) yn cael eu cyfrif cystal â physgod gwyllt sydd newydd esgyn. Ond mae'r ansawdd yn dda iawn a gallai ddod yn gyflenwad pwysig yn y dyfodol. Bu'n ffordd llwyddiannus iawn o fwydo morloi lleol.

Eog yr Iwerydd (salmo salar)

Eog yr Iwerydd (salmo salar)

Efallai bod eog newydd esgyn sydd newydd ddychwelyd o'r môr i'w afon enedigol yn un o'r pysgod harddaf sy'n bod. Mae Eogiaid yr Iwerydd yn bwydo yn nyfroedd yr Arctig ac yn tyfu'n gyflym iawn. Ar ôl tair blynedd yn y môr, gall bwyso 10 - 15 cilo pan fydd yn dychwelyd i'r afon. Ar un cyfnod, roedd Afon Gwy yn enwog am bysgod gwanwyn mawr da. Gwaetha'r modd, mae nifer o ffactorau, o bysgota yn y môr mawr, ar hyd y gylchred gyfan, i golli meysydd silio yn uchel ym mynyddoedd Cymru, wedi arwain at ostyngiad yn nifer y pysgod ardderchog hyn yn Afon Gwy ac afonydd eraill Cymru fel ei gilydd.

Ceir eogiaid yn y rhan fwyaf o afonydd Cymru, yn enwedig tua diwedd y gwanwyn ac yn yr haf a'r hydref, os ceir digon o law. Maent yn pwyso 3 - 5 cilo ar gyfartaledd ond mae'n bosib dal rhai mwy weithiau. Mae pysgotwyr rhwydi trwyddedig yn dal eog a sewin mewn aberoedd ac mae'r cwryglau traddodiadol yn dal i gael eu defnyddio ar rai afonydd, yn enwedig afonydd Tywi a Theifi. Yn ogystal, mae pysgotwyr gwialen yn dal eogiaid rhai afonydd ac mae hyn yn denu llawer o ymwelwyr i'r ardaloedd hyn.

Mae eog cyfan yn ganolbwynt ardderchog i bryd bwffe neu wledd. Fel arall, gaiff ei dorri'n gytledi neu'n ffiledau unigol. Mae ochr gyfan eog mawr yn ddelfrydol ar gyfer ei sychu trwy fwg. Mae samon mwg, wedi'i dafellu'n denau yn hyfryd iawn. Er nad yw samon mwg sydd wedi'i ffermio yn gostus iawn, mae'n eithriadol o boblogaidd mewn bwytai o safon.

Nid oes samon yn cael ei ffarmio yng Nghymru ond mae siopau pysgod ac archfarchnadoedd yn cael digon ohono o ffermydd pysgod yn yr Alban. Er nad yw'r blas na'r ansawdd yn cael ei gyfrif cystal â physgod gwyllt, gellir ei ddefnyddio mewn unrhyw rysáit ar gyfer eog neu sewin.

Ceir nifer o ffermydd brithyll dwr croyw sy'n magu brithyll seithliw (salmo gairdneri), sy'n dod yn wreiddiol o Ogledd America. Mae'r ffaith fod digonedd o ddwr naturiol, glân gennym yn golygu y gellir cynhyrchu pysgod o safon uchel. Maent yn cael eu defnyddio i ail-lenwi llynnoedd ac afonydd ac ar gyfer y farchnad fwyd lle cânt eu gwerthu fel pysgod cyfan, ffiledi neu bysgod mwg.

Prynu eog a sewin

Prynu eog a sewin

Mae stondinau pysgod da ym marchnadoedd Caerfyrddin ac Abertawe. Raymond Rees, Gwerthwr Pysgod, Marchnad Caerfyrddin - Cadeirydd Cymdeithas y Pysgotwyr Cwryglau.
Ffôn: 01267 234144

Marchnad Abertawe

Coakley Green, Gwerthwr Pysgod.
Ffôn: 01792 653416

Tuckers, Gwerthwyr Pysgod
Ffôn 01792 652277

Marchnad Caerdydd
Ashtons, Gwerthwr Pysgod.
Ffôn: 029 2022 9201

Gogledd Cymru
The Fish Shop, Builder Street, Llandudno.
Ffôn: 01492 870430

Cyfanwerthu

Vin Sullival Ltd, Blaenafon, Gwent.
Ffôn: 01495 792792
Ffacs: 01495 792277
Ebost: sales@vinsullfoods.fsbusiness.co.uk

Ffermydd:

Haven Harvest Ltd, Edwards Pill, Llangwm, Sir Benfro.
Ffôn: 01646 684137
Ebost: havenharvest@breathEbost.net

Pembroke Fish Farms, Orielton Mill, Hudleton, Sir Benfro
Ffôn: 01646 661393
Ebost: orieltonmill@farmersweekly.net

Teifi Valley Fish Farms, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin
Ffôn: 01597 480789

Old Forge Trout Farm, Bodfari, ger Dinbych
Ffôn: 01745 710305
Ebost: scott.davidson@talk21.com
www.welshtrout.com

Sewin

Rysáit

Sewin gyda saws cennin a beurre blanc

Gellir defnyddio ffiledi neu gytledi o sewin. Mae'r rysáit yn addas ar gyfer eog a physgod eithaf mawr eraill hefyd.

4 cytled o sewin, tua 150g yr un
25g olew a menyn
300g cennin ifanc wedi'u trimio a'u golchi
Halen Môn a phupur newydd ei falu

Saws
50g sialóts wedi'u torri'n fân
300ml gwin gwyn sych Cymreig fel Cariad, Panteg neu Glyndwr
25ml finegr gwin gwyn
6 gronyn pupur gwyn, wedi'u malu
200g menyn Cymreig dihalen
sudd hanner lemon
joch o bupur cayenne

Yn gyntaf, paratowch y saws trwy fudferwi'r sialóts, y gwin, y grawn pupur a'r finegr mewn sosban enamel neu un wrthstaen dda, yn araf am 30 i 40 munud hyd nes y bydd y rhan fwyaf o'r sudd wedi anweddu. Rhowch ychydig eto o win os bydd angen. Torrwch y menyn yn ddarnau 2cm a gadael iddo feddalu. Hidlwch y sialóts gan eu gwasgu'n dda i adael rhyw ddwy lond llwy bwdin o hylif. Rhowch yr hylif yn ôl yn y sosban a, dros wres cymedrol, chwisgwch y menyn i mewn fesul darn, gan adael i bob darn gael ei gymysgu cyn ychwanegu'r nesaf. Dylai'r saws fod yn hufennog. Tynnwch oddi ar y gwres, ychwanegwch y lemon a'r pupur cayenne a'i orchuddio i'w gadw'n gynnes ar ochr y stof neu mewn cwpwrdd cynnes.

Torrwch ran wyn y cennin yn fân a'r rhan wyrdd ychydig yn frasach. Coginiwch y ddau ar wahân yn y popty meicrodon neu mewn ychydig o olew a menyn mewn sosban a chaead arni. Ychwanegwch un rhan o dair o'r beurre blanc i'r rhan wyn a'i gadw'n gynnes.

I goginio'r pysgodyn - bydd angen sosban fas ag iddi gaead, sy'n ddigon mawr i gymryd y 4 darn o'r pysgodyn a rhyw 2 - 3cm o le rhwng bob un lle gall y gwres ddatblygu. Ar wres cymedrol, toddwch y menyn mewn olew, ychwanegu'r pysgodyn a'i goginio heb gaead am 1 - 2 munud yn dibynnu ar drwch y darnau. Trowch y darnau'n ofalus â sleis bysgod, rhowch ychydig o halen a phupur, rhowch gaead ar y sosban a choginio'r pysgod am funud arall. Yna diffoddwch y gwres a gadael y sosban yno am ryw 1 - 2 munud arall. Tynnwch y darnau pysgod o'r sosban â'u cadw'n gynnes. Rhowch ddarnau gwyrdd y cennin mewn sosban a'u cynhesu'n gyflym yn y sudd. Codwch i ganol pedwar plât cynnes a rhoi darn o'r sewin ar bob un. Rhowch ychydig o'r beurre blanc a rhan wyn y cennin ar eu pen, a gweddill y saws ar ochr y plât. Mae'n hyfryd gyda thatws newydd.

Caws y Mis

Caws y Mis

Celtic Promise neu Saval, Caws Teifi

Mae gwres y gwanwyn yn hybu tyfiant yn y meysydd, sy'n rhoi bwyd llawn maeth i greaduriaid gwyllt a dof. Gall wyn y gwanwyn lenwi eu boliau ar borfeydd a chwyn, gan roi blas melys i'r cig ifanc. Mae'r gwartheg hwythau'n pori ar y tyfiant ir sy'n rhoi blas cyfoethog i'w llaeth. Mae hyn, yn ei dro yn sicrhau bod y cynnyrch a wneir ohono o safon uchel iawn, yn enwedig y cawsiau ffermdy a wneir mewn sawl rhan o Orllewin Cymru.

Sefydlwyd Caws Teifi ym 1982 gan John a Patrice Savage-Onstwedder sy'n grefftwyr yn y maes. Maent yn gwneud sawl math o gaws caled a meddal o laeth amhasteuraidd. Ceir blas cyfoethog, hufennog i'r rhan fwyaf o'u cawsiau ac mae amrywiaeth y blas yn adlewyrchu cyfoeth y pridd a'r gwahanol fathau o borfeydd, blodau a pherlysiau sy'n tyfu yn y dolydd a'r cloddiau o'u cwmpas.

Caws lled-feddal yw Celtic Promise. Fe'i gwneir mewn rowndiau 500g, neu mewn rowndiau 2 gilo o'r enw Saval. Nid yw'r caws yn cael ei wasgu a, pan fydd y grofen yn dechrau ffurfio, caiff ei olchi ddwywaith yr wythnos mewn toddiant bacteriwm i ddatblygu ei flas ac i gadw'r ansawdd yn feddal a hufennog. Mae'r broses hon yn parhau am chwe wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn, mae'r protein ar y croen yn torri i lawr ac yn troi'n lliw oren a'r caws yn aeddfedu a'r blas yn dyfnhau. Mae'n debyg i gaws Munster Ffrengig, Port Salut neu Pont L'Eveque, neu gaws Stinking Bishop o Loegr. Ond mae'r llaeth amrwd, amhasteuraidd yn rhoi blas arbennig i Celtic Promise.

Mae Celtic Promise a Saval yn gaws cyfoethog, ychydig bach yn siarp, a thipyn o gymeriad yn perthyn iddo ond heb fod yn rhy asidaidd. Ar ôl ei bacio, mae dylanwad y bacteriwm yn lleihau a bydd yn parhau i aeddfedu am rai wythnosau.

Dyma'r unig gaws Cymreig sydd wedi ennill gwobr bwysig y Prif Bencampwr yn y British Cheese Awards (1998). Ers tair blynedd yn olynol, cafodd wobr am y caws lled-feddal gorau yn y Gwobrau hyn.

Ar gael - Mae ar gael yn y rhan fwyaf o siopau caws da trwy Brydain ac o'u stondin eu hunain ym Marchnad Caerfyrddin ar ddyddiau Mercher, Gwener a Sadwrn. Mae siop y fferm ar agor o ddydd Llun tan ddydd Sadwrn 9.00-17.00 a gellir prynu caws a menyn yno.

Caws Teifi
Glynhynod,
Ffostrasol,
Llandysul,
Ceredigion,
SA44 5JY
Ffôn / Ffacs: 01239 851528