Mae mis Medi yn datgan diwedd yr haf; bydd y nosweithiau'n dywyllach a bydd cefn gwlad i gyd yn troi'n euraidd. Cynaeafir y cnydau olaf, a bydd aeron gwyllt a ffrwythau yn aeddfedu. Bydd madarch gwyllt a ffyngau rhyfedd eraill yn ffrwydro yn y coedwigoedd ac yn y dolydd, ac ar waelod y môr bydd molysgiaid wedi pesgi yn eu cregyn, a bydd lledod mor dew â moch yn dilyn haf o fwyta. Bydd adar sy'n mudo yn ymgynnull yn yr awyr yn barod am eu taith hir tua'r de, wrth i adar dwr gyrraedd yr aberoedd a fydd yn gartref iddynt am y gaeaf. Hyd yn oed yn yr oes fodern sydd ohoni o gynhyrchu ar raddfa fawr a bwydydd a gaiff eu mewnforio, bydd grym newid y tymhorau yn rhoi ei ôl ar y bwydydd a ddaw o'r tir ac o'r môr.
Misoedd y gaeaf yw'r tymor gorau am nifer o fwydydd y môr gan gynnwys wystrys a chregyn gleision, a'r cregyn gleision sydd wedi datblygu'n bysgodfa fawr a reolir yng Ngogledd Cymru. Ardal Y Fenai rhwng Bangor a Biwmares ac allan i Fae Conwy yw pysgodfa cregyn gleision fwyaf Prydain erbyn hyn. Mae nifer o'r treillwyr cregyn gleision diweddaraf yn casglu oddi ar waelodion y dyfroedd, gan symud y cregyn gleision ifanc o ardaloedd rhynglanwol anaddas i 'orweddion' dyfroedd dyfnach lle bydd cregyn gleision yn tyfu i faint marchnata o fewn deuddeg mis. Allforir y rhan fwyaf o'r cynhaeaf, a all fod hyd at 50% o gyfanswm cynhaeaf Prydain, i farchnadoedd awyddus Ewrop yn Ffrainc, Yr Iseldiroedd a Gwlad Belg.
Lleolir y treillwyr cregyn gleision pwerus ym Mhorthladd Penrhyn, Bangor, ac maent wedi bod yn hollbwysig wrth adfywio pysgodfa cregyn gleision draddodiadol aber Conwy. Gwnaethpwyd hyn â llaw am ganrifoedd, gan gasglu'r cregyn gleision gyda chychod cregyn gleision gwaelod fflat - tasg lafurus iawn oedd yn aneffeithlon yn yr oes fodern - ac o ganlyniad roedd y diwydiant ar farw. Mae'r treillwyr yn gwneud y dasg o ailosod mewn ychydig ddyddiau, yn hytrach nag mewn sawl mis, a bellach mae'r bysgodfa yn ymarferol ac mae'n ffynnu. Yn bwysicaf oll, mae'n cyflenwi cregyn gleision byw ardderchog, wedi'u golchi ac sydd o'r ansawdd gorau i'r farchnad leol, i westai ac i fwytai. Mae'r rhain yn fwyd arbennig bob dydd trwy gydol y tymor ym Mwyty Shakespeare yng Ngwesty'r Castell yng Nghonwy (01492-582800)
Gellir prynu cregyn gleision o'r rhan fwyaf o siopau pysgod yn ystod y tymor (Medi - Ebrill), neu gan gyfanwerthwyr a thyfwyr (gweler isod). Yn ôl y gyfraith, bydd y rhain wedi'u puro mewn dwr glân i gael gwared ar unrhyw facteria. Dylent fod wedi'u cau'n dynn ag arogl ffres arnynt. Dylech osgoi y rhai sydd â llawer o wyddau môr neu chwyn arnynt, gan ei fod yn cymryd amser i'w glanhau.
Cregyn gleision wedi'u stemio mewn cymysgedd o win gwyn, sialóts a pherlysiau yw'r clasur 'moules mariniere'. Mae'n bryd syml, gwladaidd a hynod o flasus. Mae nifer o amrywiaethau ar y thema, wrth ychwanegu garlleg, seleri, sbeisys, chilli, tomato, perlysiau, gwahanol winoedd, seidr, cwrw a sawrion. Ond y peth sylfaenol yw i beidio â gor-goginio'r cregyn gleision gan y byddant yn colli'u cynnwys dwr ac yn mynd yn wydn. Os caiff cregyn gleision eu defnyddio mewn rysait a ail-goginir fel 'moules farcies' gyda menyn garlleg a breision bara ar ei ben, mae'n rhaid eu coginio'n gyflym iawn ac am gyfnod a fydd yn eu cynhesu'n unig.
Yr 'hylif' coginio
Gall fod mor syml â gwin, cwrw, seidr, neu sieri sych, neu ddwr. Heb os, caiff y blas ei wella wrth goginio 'moules mariniere' clasurol
1 cilo o gregyn gleision glân wedi'u paratoi fel yr uchod
100 g o sialóts, wedi'u torri'n fân
25ml o olew
25g o fenyn
1 sbrigyn mawr o deim, 2 ddeilen llawryf; 1 sbrigyn o barsli wedi'i dorri
200ml gwin gwyn sych
pupr du ffres
darnau o lemwn a digonedd o bersli ffres wedi'i dorri
Mewn sosban fawr gyda chaead, ffriwch y sialót yn ysgafn yn yr olew a'r menyn nes y byddant yn dryloyw. Ychwanegwch y perlysiau a'r gwin a'u lledferwi am 2 - 3 munud. Ychwanegwch y cregyn gleision, a rhowch gaead sy'n ffitio'n dda ar y sosban, a'u coginio ar y gwres uchaf, gan ysgwyd y sosban o bryd i'w gilydd, am tua 3 munud neu hyd oni fydd y cregyn i gyd wedi agor. Dylid eu gweini mewn powlenni mawr, gyda'r holl hylif coginio, wedi'u gorchuddio â phersli a darnau o lemwn.
Sylwer: bydd rhai pobl yn ychwanegu hufen at yr hylif ar ôl gorffen coginio, neu yn ei dewychu gyda 'beurre manie'. Rydw i'n credu mai'r rysáit syml yw'r un gorau. Mae sieri sych yn gwneud y tro yn iawn yn lle'r gwin, ac fe allwch yfed Sieri Sych Manzanilla gyda'r cregyn gleision.
I brynu cregyn gleision
Dylai siopau pysgod a marchnadoedd werthu cregyn gleision yn ystod y tymor.
Y Siop Bysgod, Builder Street, Llandudno LL30 1DR
Ffôn: 01492 870430
Fish on the Quay, Aberaeron SA46 0BT
Ffôn: 01545 571294
Ffair Fôr Sir Benfro, Marchnad Dinbych y Pysgod, Dinbych y Pysgod
01834 844811
Rotunda Bwydydd Môr, Marchnad Abertawe, Oxford Street, Abertawe
Ffôn: 01792 654294
Siop Bysgod Ashton, Marchnad Ganolog Caerdydd, Y Stryd Fawr, Caerdydd
Ffôn: 029 2022 9201
Tyfwyr a chyfanwerthwyr:
Cwmni Cregyn Gleision Conwy, Y Cei, Conwy LL32 8BB
Trevor Jones
Ffôn: 01492 592347
Wystrys Menai, Tal Bont Bach, LlanfairPG, Sir Fôn LL61 6UU
Ffôn: 01248 430878
Ebost: theoysterman@eidosnet.co.uk
Gower Coast Seafoods, Heol Pen Cae Fenni, Crofty, Bro Gwyr SA4 3SW
Ffôn: 01792 850796
Bwydydd Môr Penclawdd, Ffatri Lynch, Llanmorlais, Abertawe SA4 3TN
Ffôn: 01792 850033
Gwefan: www.selwynsseafoods.co.uk
Ebost: selwynsseafoods@freenetname.co.uk
Allforwyr
Myti Mussels, Port Penrhyn, Bangor LL57 4HN
Ffôn: 01248 354878
Ebost: kimmussels@hotmail.com
Deep Dock Ltd,
Ffôn: 01407 730588
Ffeiriau Bwyd yng Nghymru
Gwyl Fwyd Y Fenni 20 - 21 Medi 2003
Disgrifiwyd un o wyliau bwyd mwyaf cyffrous Cymru, sydd wedi'i lleoli yn Y Fenni, gan Hugh Fearnley-Whittingstall gan ddweud y bydd 'Gororau Cymru'n bywiogi â hwyl a gwledda.' Cynhelir digwyddiadau ar draws y dref, gan gynnwys Neuadd y Farchnad, y Castell a Gwesty'r Angel.
Eleni, ymhlith ein henwogion gwadd y mae Jill Dupleix, Georgio Lacatelli, Jonathan Meades, Ruth Rogers a Rose Gray, a Franco Taruschio. Bydd Neuadd y Farchnad yn cynnwys arddangosfa Gwir Flas gyda dros 70 o gynhyrchwyr bwydydd arbenigol. Caiff plant eu diddanu mewn gwersi coginio a gynhelir yn y castell wrth i rieni ymlacio.
Ceir manylion llawn yr holl ddigwyddiadau a llefydd i aros yn:
www.abergavennyfoodfestival.co.uk
neu cysylltwch â Chanolfan Dwristiaeth Y Fenni
Ffôn: 01873 857588
Abergavenny.tic@monmouthshire.gov.uk
Gwyl Fwyd Marchnad Abertawe ddydd Llun 29 Medi - dydd Sadwrn 4 Hydref
Cynhelir wyl fwyd hynaf Cymru ym marchnad Abertawe, marchnad dan dô fwyaf Cymru sy'n enwog am ei dewis gwych o fwydydd lleol o Fro Gwyr a'r ardal. Ymhlith atyniadau'r wythnos bydd arddangosfeydd coginio bob dydd, diddanwch gan gorau ysgolion lleol a Nosweithiau Gourmet. Ceir manylion llawn gan
Anita.Thomas@swansea.gov.uk
Canllaw Cawsiau Cymreig yn ôl dull
Hen ddelwedd cawsiau Cymru oedd caws Caerffili a cheddar, a wnaed yn bennaf mewn hufenfeydd mawr heb unrhyw arbenigrwydd. Nawr, mae yna nifer o gynhyrchwyr fferm llai sy'n gwneud niferoedd sylweddol o gaws mewn amrywiaeth o ddulliau. Mae yna hefyd gwmnïau cydweithredol mwy o faint sy'n cynhyrchu caws gyda llaeth eu haelodau'n unig ac er eu bod yn cynhyrchu mwy o gawsiau maent yn gawsiau o ansawdd da a all gystadlu yn y prif farchnadoedd.
Mae'r rhestr ganlynol yn ganllaw i'r dulliau o gawsiau sydd bellach ar gael gan gynhyrchwyr Cymreig. Cynhyrchir mwy na'r rhain, yn enwedig cawsiau â blas arbennig. Mae nifer o'r cawsiau hyn ar gael trwy'r grwp newydd Cawsiau o Gymru.
Cawsiau Ffres
Pantysgawn
Caws gafr organig, meddal, ffres Caws gafr Pant Mawr mewn olew
Caws gafr meddal, ffres mewn olew yr olewydd Cawsiau Meddal
Pant Mawr Preseli
Brie meddal hufennaidd a wneir mewn rowndiau fflat, gyda chrawen naturiol â blas egr llawn Perl Wen
Caws Cenarth
Brie cadarn hufennaidd mewn rowndiau fflat, wedi'i wneud o laeth organig gyda blas pur Crawen wedi'i olchi / heb ei wasgu
Dewi Sant - Abergavenny Fine Foods
Lled-feddal gyda chrawen wedi'i olchi mewn rowndiau fflat, gyda blas fferm aeddfed Pant Mawr Cerwyn
Lled-galed, mewn rowndiau fflat, heb ei wasgu, blas bras Saval - Cawsiau Ty Fferm Teifi
crawen wedi'i olchi, mewn rowndiau trwchus, heb ei basteureiddio, blas aeddfed hufennaidd Celtic Promise - Cawsiau Ty Fferm Teifi
Saval tra-aeddfed, rowndiau bychain, blas ty fferm bras Lled-galed
Llaeth Dafad Acorn - Little Acorn
Cosynnau bychain wedi'u cywasgu, crawen naturiol, hufennaidd, mwyn, briwsionllyd a blas egr Llaeth Dafad Skirrid - Little Acorn
Cosynnau bychain, crawen wedi'i olchi mewn medd, blas melus-egr hufennaidd a briwsionllyd St Florence - cheddar mwyn
Rowndiau wedi'u cywasgu gyda chrawen lliain, blas mwyn, siarp, briwsionllyd Caerffili
Caws Cenarth Organig
Olwynion 4 cilo organig hufen llawn, gyda blas cymhleth a gwead caled o stoc fferm o dras Caerfai Organic
Olwynion traddodiadol gydag egr hufennaidd a blas siarp Gorwydd
Math ty fferm traddodiadol mewn olwynion 4 cilo â chrawen dywyll naturiol, gwead hufennaidd ac oglau madarch fferm
Cheddar Cymreig
gan y cydweithredwyr ffermio a chwmnïau mwy, wedi'i becynnu i'w ddosbarthu i fanwerthwyr
Cheddar Aeddfed Hen Sir Cheddar Aeddfed Eryri Cheddar Organig Hufenfeydd y Castell Welsh Gold Dyffryn Aeron Cawsiau Caled
Llaeth Gafr Merlin
Gwyn pur, caled, aeddfed mewn rowndiau bychain mewn cwyr gyda blas dwys a chymhleth Llaeth Dafad Lammas Caws Celtica
Rowndiau bychain caled, aeddfed, gyda gwead pecorino briwsionllyd â blas egr dwys Gouda Ty Fferm Teifi
Rowndiau mawr tebyg i gouda o gaws caled gyda llaeth hufen llawn, heb ei basteureiddio â blas dwys, bras Cheddar Nantybwla
Cosynnau traddodiadol o cheddar aeddfed mewn dull ty fferm traddodiadol, llawn blas a siarp Cheddar Llangloffan
Cosynnau mawr, traddodiadol, cheddar ty fferm tra-aeddfed gyda blas bras a siarp Llanboidy Cilowen Organig
Cheddar ty fferm organig traddodiadol o stoc Red Poll o dras, caws caled, gweddol aeddfed gyda blas bras dwys Penbryn Organig
Cosynnau bach traddodiadol wedi'u gwneud â llaw a heb eu pasteureiddio, gwead caled, blas hufennaidd bras Cawsiau Glas
Cenarth Perl Las
cosynnau bach, caled, gyda gwythiennau glas, blas bywiog ac aeddfed Gorau Glas
rowndiau bychain lled-feddal, glas iawn gyda blas llawn, hufennaidd a bras Cawsiau ag Ychwanegion Blas a Chaws Mwg
Mae'r rhan fwyaf o gynhyrchwyr yn gwneud rhai cawsiau ag ychwanegion blas neu gawsiau mwg, ac mae nifer ohonynt yn boblogaidd yn fasnachol. Dyma rai enghreifftiau:
Tintern gyda sifys Y Fenni gyda mwstard a chwrw Llanboidy gyda bara lawr Teifi gyda danadl poethion Snowdonia Green Thunder Merlin gyda garlleg Cerwyn Mwg Celtica Mwg Ceir manylion am gawsiau Cymreig yn www.walesthetruetaste.com (hafan -Caws Cymru)