Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Fflowlyn wedi?i rostio gyda stwffin caws llaeth gafr a pherlysiau Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr
wy organig wedi?i ferwi

Beth rydym yn ei wneud

Mae bwyd o Gymru wedi ennill enw da ers blynyddoedd lawer am ei arbenigrwydd a'i safon ac felly mae'n boblogaidd gyda phobl ym mhedwar ban byd.

Gall Cymru ymfalchio ei bod yn cyflenwi cynnyrch sydd gyda'r gorau yn y byd. Mae'r tirwedd, fel y bwyd, yn ffres, yn hyfryd ac yn amrywiol - meddyliwch am gaws a gwin unigryw, cig eidion a chig oen heb eu hail, a physgod a bwyd mor ffres - mae'r cyfan yng Nghymru.

Mae gan fwyd ran bwysig i'w chwarae yn economi Cymru, oherwydd ceir nifer sy'n cyfateb i 55,000 o swyddi llawn amser ym maes cynhyrchu a phrosesu bwyd yn unig.

Mae'r Is-adran Datblygu Bwyd a'r Farchnad yn cydweithio â phartneriaid trwy'r diwydiant cyfan i adeiladu ar y cryfder hwn ac i ychwanegu gwerth at fwyd Cymru ym mhob rhan o'r gadwyn gyflenwi.
Nod ein tîm profiadol yw cyflawni hyn trwy gyfres o raglenni sydd wedi'u targedu'n benodol a'u cynllunio'n arbennig i ddatblygu dolenni cryfach yn y gadwyn hon ac i sicrhau bod bwyd o Gymru'n bodloni gofynion y farchnad gartref a thramor.

Mae'r Rhaglen Datblygu Masnach yn cydweithio â busnesau gwneud a phrosesu bwydydd a diodydd yng Nghymru, gan gynnig gwahanol fathau o gymorth i'w helpu i dyfu mewn marchnadoedd yng Nghymru, y DU a thramor.
Ymhlith y Rhaglenni Cymorth mae:-
· Cyfleoedd i arddangos o dan y brand 'Cymru y Gwir Flas' mewn sioeau masnach
· Rhaglenni Datblygu Cyflenwyr i helpu busnesau i fod yn fwy cystadleuol, i werthu mwy ac i wella'u sgiliau marchnata
· Cyfarfodydd cyflwyno ar ffurf 'Cwrdd â'r Prynwr'
· Cyngor marchnata arbenigol ar allforio yng Nghymru a Thramor

Mae Gwyliau Bwyd, Marchnadoedd Ffermwyr a mentrau ar gyfer cwsmeriaid yn tynnu sylw at frand bwyd Cymru ac yn rhoi cyfleoedd i ffermwyr a chynhyrchwyr bwydydd a diodydd i gwrdd â'u cwsmeriaid ac i gwsmeriaid brofi a phrynu cynnyrch lleol.

Mae Gwobrau Bwyd a Diod Y Gwir Flas / The True Taste, lansiwyd yn 2002, yn rhan o'r ymrwymiad i ddatblygu'r sector, a chodi ymwybyddiaeth o frand bwyd 'Cymru y Gwir Flas'.

Neu os ydych yn dymuno prynu cynnyrch o Gymru, ewch i Cynhyrchwyr, y rhestr gynhwysfawr o gwmniau sy'n cynhyrchu ac yn dosbarthu bwydydd Cymreig o safon.